Llafur wedi 'bradychu cenhedlaeth o blant' medd May

  • Cyhoeddwyd
Theresa May

Dylai prif weinidog nesaf Cymru ddilyn esiampl Lloegr wrth ddiwygio ysgolion, yn ôl Theresa May.

Wrth siarad â chynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig ddydd Gwener, dywedodd Prif Weinidog y DU fod Llywodraeth Cymru wedi "bradychu cenhedlaeth o blant".

Ychwanegodd Mrs May y dylai'r prif weinidog nesaf fabwysiadu eu polisïau gan gynnwys gadael i ysgolion droi'n academïau sydd ddim dan reolaeth eu cyngor lleol.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dweud y bydd yn camu o'r neilltu cyn diwedd y flwyddyn.

'Codi safonau'

Yn ddiweddar, fe gyfaddefodd Mr Jones fod Llafur wedi "cymryd eu llygaid oddi ar y bêl" mewn perthynas ag addysg yn ystod blynyddoedd cynnar datganoli.

Dywedodd Mrs May fod Llywodraeth y DU wedi dysgu o esiampl Cymru mewn meysydd polisi eraill, gan gynnwys cyflwyno tâl am ddefnyddio bagiau plastig a'r system o ganiatâd tybiedig i roi organau.

Ond ychwanegodd fod angen i olynydd Mr Jones, "edrych ar beth mae'r Ceidwadwyr wedi'i gyflawni wrth ddiwygio ysgolion", gan rybuddio y gallai Cymru gael ei gadael ar ôl fel arall.

"Edrychwch ar y cwricwlwm newydd sydd wedi codi safonau - gyda Lloegr nawr yn uwch yn yr astudiaethau rhyngwladol," meddai yn ei haraith i'r gynhadledd yn Ffos Las, Sir Gâr.

Disgrifiad o’r llun,

Theresa May yn cyrraedd cwrs rasio Ffos Las ddydd Gwener

"Edrychwch ar yr ysgolion rhydd a'r academïau sydd yn dod â darparwyr amrywiol i mewn er mwyn creu mwy o lefydd ysgol gwych a sicrhau rhai o'r canlyniadau TGAU gorau.

Dywedodd hefyd fod ei phlaid wedi "arwain gydag addysg dechnegol" a Sefydliadau Technoleg newydd sy'n cynnig hyfforddiant i bobl ifanc a phobl mewn swyddi.

"Peidiwch â gadael i wleidyddiaeth ac ideoleg eich dallu chi i beth sy'n gweithio, a beth allai wneud gwahaniaeth i bobl ifanc yng Nghymru."