Cwpan Undydd: Morgannwg yn colli i Sir Gaerloyw

  • Cyhoeddwyd
Shaun MarshFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Shaun Marsh oedd yr unig un o fatwyr Morgannwg i gyrraedd o rediadau

Mae Morgannwg wedi colli o wyth wiced yn eu gornest yn erbyn Sir Gaerloyw yng Ngerddi Sophia yn y Cwpan Undydd.

Roedd y tîm cartref allan am 264 o rediadau, gyda Shaun Marsh yn sgorio uchaf gyda 57.

Llwyddodd Chris Liddle i gymryd pedair wiced dros Sir Gaerloyw, cyn i George Hankins a Chris Dent adeiladu cyfanswm parchus i'r ymwelwyr gyda'r bat.

Roedd Hankins a Dent allan am 85 ac 80 o rediadau, ond fe osododd y bartneriaeth sylfaen oedd yn fwy na digon cadarn i'w tî.

Fe wnaeth Sir Gaerloyw gyrraedd y nod o 265 am ddwy wiced mewn ychydig dros 48 pelawd.