Ffyrdd ar gau ar gyfer 'Monster Jam' Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Principality StadiumFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd nifer o ffyrdd canol Caerdydd yn cau am rai oriau ddydd Sadwrn oherwydd digwyddiad Monster Jam - rasio cerbydau anferth - yn Stadiwm Principality.

Fe fydd y ffyrdd yn cau rhwng 12:30 a 20:30 fel rhan o'r cynllun i gau canol y ddinas yn llwyr.

Yn ogystal, dywedodd Trenau Arriva Cymru y bydd gwasanaethau trenau yn ardal Caerdydd yn brysur drwy'r dydd, ac fe fyddan nhw'n ychwanegu mwy o seddau pan yn bosib.

Bydd Stryd y Parc a Ffordd Scott ar gau yn gynnar yn y dydd er mwyn gwarchod pobl sy'n ciwio ar gyfer y digwyddiad.

Mae'r holl fanylion am y strydoedd fydd ar gau ar gael ar wefan Cyngor Caerdydd, dolen allanol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl y bydd dros 30,000 o bobl yn heidio i'r stadiwm ar gyfer y digwyddiad

Bydd system i reoli torfeydd yn cael ei weithredu yng ngorsafoedd rheilffordd Caerdydd Canolog a Heol y Frenhines.

Gorsaf Heol y Frenhines fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer gwasanaethau lleol ac i'r cymoedd, gan gynnwys Penarth, Merthyr Tudful, Aberdâr a Rhymni.

Dylai teithwyr ar gyfer gwasanaethau i Faesteg a Glyn Ebwy ddefnyddio gorsaf Caerdydd Canolog.