Jennifer Jones: O'r byd actio i gyflwyno Wales Today

  • Cyhoeddwyd
jen

Mae Jennifer Jones yn wyneb cyfarwydd ar y teledu yng Nghymru; i ddechrau fel actores, ac yn y blynyddoedd diwethaf fel cyflwynydd newyddion.

Mae hi bellach wedi ei henwi yn un o'r prif gyflwynwyr ar raglen Wales Today ar y BBC, ac mae'n dechrau yn ei rôl newydd ar Mehefin 4.

Cafodd Cymru Fyw y siawns i holi'r ferch o Fangor am ei gyrfa, o'r dyddiau gyfres Tipyn o Stad i Wales Today.

Sut wnaeth dy yrfa actio ddechrau?

Roeddwn i'n dawnsio ballet, a ballerina o'n i am fod! Ond wrth gystadlu mewn eisteddfodau hefo Ysgol y Garnedd, ac yna ar ôl ymuno ag Ysgol Glanaethwy, fe drodd fy mryd tuag at actio.

Tra o'n i yn y brifysgol, mi wnes i dreulio pob eiliad sbâr yn ymarfer ar gyfer dramâu - o The Wizard of Oz i Shakespeare.

Beth wyt ti'n gofio o dy gyfnod ar Tipyn o Stad a beth oedd uchafbwynt dy yrfa actio?

Mae gen i atgofion hapus iawn o weithio ar Tipyn o Stad. Dros naw mlynedd mi ddaeth y cast a'r criw yn agos iawn ac fe wnes i ffrindiau oes. Mi roedd fy nghymeriad, Heather Gurkha, yn ferch a hanner ac yn aelod o deulu oedd â mwy na'i siâr o broblemau.

Mi ges i straeon difyr iawn i'w portreadu - er enghraifft mewn un gyfres mi roedd Heather yn ennill pencampwriaeth bocsio, felly ges i wersi am flwyddyn yng nghlwb bocsio Caernarfon! Ac yn y bennod olaf un fe gafodd Heather ei saethu'n farw gan Ian Flash - diwedd y gyfres a diwedd cyfnod i mi.

Un o'r uchafbwyntiau oedd bod mewn cynhyrchiad o'r opera roc Nia Ben Aur. Cynhyrchiad cwmni Theatr Na N'Og, ble roedd yr actorion yn offerynwyr ac yn gantorion hefyd. Gwaith caled ond lot o sbort, ac mi wnes i weithio i'r cwmni sawl gwaith wedi hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Tipyn o Stad - Neil Williams, Siwan Llynor, Wyn Bowen Harries, Gwenno Hodgkins, Rhodri Meilyr a Jennifer Jones

Oedd yna ddiddordeb mewn newyddion/materion cyfoes pan oeddet ti'n iau?

Dwi wastad wedi bod â diddordeb mewn materion cyfoes, ac mi es i ar brofiad gwaith i ystafell newyddion BBC Bangor fwy nag unwaith pan o'n i'n ddisgybl yn Ysgol Tryfan.

Ar ôl graddio ro'n i rhwng dau feddwl i ba gyfeiriad y dylwn i fynd - ond mi ges i fy nerbyn ar gwrs actio ôl-radd yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru felly dyna fu. Mi fues i'n gweithio fel actores am ddeng mlynedd ac mi ges i fodd i fyw.

Sut beth oedd hi i newid o actio i newyddiadura?

Mi roedd y newid yn teimlo'n naturiol iawn; roeddwn i'n barod am sialens newydd. Wedi symud i Gaerdydd, yn briod ac yn fam, mi es i am brofiad gwaith i adran newyddion BBC Radio Cymru tra o'n i'n feichiog am yr ail waith - ac ychydig fisoedd wedyn mi ges i gynnig swydd yno.

Oes yna rywfaint o debygrwydd rhwng y ddau broffesiwn?

Mae 'na elfen o berfformio wrth ddarlledu. Storïwyr ydy actorion a newyddiadurwyr - felly mae rhyw debygrwydd. Ond wrth gwrs mae newyddiadurwyr yn adrodd straeon sy'n digwydd go iawn, a sydd yn aml yn effeithio'n uniongyrchol ar fywydau'r gynulleidfa.

Disgrifiad o’r llun,

Jennifer yn ystod ei dyddiau yn cyflwyno'r Newyddion ar S4C

Beth wyt ti'n feddwl o'r acen newyddiadurol mae llawer yn ei ddefnyddio wrth ddarllen y newyddion?

Mae hwn yn un anodd! Y cyngor ges i oedd i siarad yn fy llais ac acen naturiol fi fy hun. Dwi'n gobeithio 'mod i'n llwyddo!

Beth yw'r gwahaniaethau mwya' rhwng cyflwyno yn Saesneg ac yn Gymraeg? Oes un yn anoddach na'r llall?

Tydw i wir methu gwahaniaethu rhwng gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Cymraeg ydy fy mamiaith, ond mae gen i radd mewn iaith a llenyddiaeth Saesneg felly dwi'n gyfforddus yn y ddwy.

Beth yw'r straeon mwyaf cofiadwy i ti weithio arnyn nhw?

Dwi wedi cael y fraint o holi llawer o bobl ddewr a diddorol, ac mae sawl un yn aros yn y cof; yn ddiweddar, dynes oedd yn marw o ganser oedd yn cymryd rhan mewn treial clinigol i helpu gwella triniaethau cleifion y dyfodol.

O ran straeon, mae rhywun yn cofio'r cyfrifoldeb o dorri newyddion mawr am y tro cyntaf, fel canlyniad y refferendwm ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd, marwolaeth Rhodri Morgan ac yn fwy diweddar y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn cyhoeddi ei fwriad i ildio'r awenau.

Disgrifiad o’r llun,

Jennifer gyda'i chyd-gyflwynwyr, Nick Servini a Lucy Owen

Sut fydd pethau yn newid o ddydd i ddydd yn dy rôl newydd?

Ar lefel ymarferol, er 'mod i wedi mwynhau gweithio ar raglenni amser brecwast fel y Post Cyntaf a bwletinau BBC Breakfast, mi fydda i'n falch o beidio gorfod codi am bedwar o'r gloch y bore o hyn ymlaen... Ond ar ôl yr amrywiaeth o ohebu a chynhyrchu, mi fydd hi'n braf cael canolbwyntio ar fod yn gyflwynydd.

Rŵan bod tri ohonom ni ar dîm cyflwyno Wales Today, y bwriad ydy y bydd mwy o gyfle i fynd allan o'r stiwdio ac ar leoliad wrth i straeon dorri.

Beth yw'r gobeithion ar gyfer y dyfodol?

Ar hyn o bryd y gobaith ydy cyflawni fy swydd newydd gora' medrai. Ac wrth i BBC Cymru baratoi i symud o Landaf i adeilad newydd yng nghanol Caerdydd, mae'n gyfnod cyffrous!