Carcharu dyn am 18 mlynedd am dreisio merch wyth oed
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-bostmon o Hwlffordd wedi cael ei garcharu am 18 mlynedd am dreisio merch wyth oed.
Dywedodd y barnwr wrth Jeffrey Lias, 50, na fyddai'n cael ei ryddhau o'r carchar nes bod y bwrdd parôl yn fodlon na fyddai'n ail-droseddu.
Fe wnaeth Ian Wright ar ran yr erlyniad ddarllen datganiad gan y ddioddefwraig yn dweud fod ei bywyd "wedi chwalu'n llwyr" ar ôl yr hyn wnaeth Lias iddi.
"Dydw i methu trystio neb bellach, dwi dal i gael hunllefau. Na'i byth anghofio beth wnaeth o i mi," meddai.
'Dychrynllyd'
Fe wnaeth Lias, oedd bellach yn byw yn ardal Preston yn Sir Gaerhirfryn, wadu'r cyhuddiadau o dreisio, ymosodiad anweddus ac ymddygiad anweddus gyda phlentyn.
Cafodd y rheithgor ef yn euog o'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn yn Llys y Goron Abertawe.
Dywedodd y barnwr fod y drosedd yn un "dychrynllyd".
Fe fydd yn rhai i Lias arwyddo'r gofrestr troseddau rhyw am oes, ac mae hefyd wedi'i wahardd rhag cysylltu gyda'r ddioddefwraig.