Barcud coch yn marw ar ôl cael ei ddal mewn magl

  • Cyhoeddwyd
Barcud cochFfynhonnell y llun, RSPCA

Mae'r RSPCA yn apelio am wybodaeth wedi i farcud coch farw ar ôl cael ei ddal mewn magl anghyfreithlon ger Aberystwyth.

Cafodd yr aderyn ei ganfod yn gwaedu gyda'i goesau wedi torri yn y fagl, oedd wedi'i gosod ger Abermagwr ar 7 Mai.

Fe gafodd ei gymryd at filfeddyg ar stryd Coedlan y Parc yn Aberystwyth, ond doedd dim opsiwn ond difa'r anifail i'w atal rhag dioddef ymhellach.

Dywedodd yr RSPCA bod y fagl gafodd ei defnyddio yn anghyfreithlon i'w osod a'i ddefnyddio, ond yn gyfreithlon i fod yn berchen arno.

'Gwarthus'

Dywedodd Keith Hogben o'r RSPCA: "Fe gafodd y maglau yma eu gwneud yn anghyfreithlon i'w gosod nifer o flynyddoedd yn ôl, ac mae'n warthus eu bod yn dal i gael eu defnyddio i ddal anifeiliaid.

"Mae canlyniadau posib defnyddio'r dyfeisiau yma'n ddifrifol iawn i anifeiliaid a phobl.

"Byddwn i ddim eisiau meddwl beth allai fod wedi digwydd pe bai plentyn, er enghraifft, wedi dod ar draws y fagl yma."

Mae'r elusen yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw trwy ffonio 0300 123 8018.