'Dim modd' ail-agor pwll padlo prom Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Pwll padlo Aber
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pwll padlo ar y prom yn Aberystwyth yn boblogaidd yn y haf

Mae 'na ansicrwydd ynglŷn â dyfodol y pwll padlo sydd ar bromenâd Aberystwyth, ar ôl i Gyngor Ceredigion gadarnhau nad oedd modd ei agor ar hyn o bryd.

Mae'r pwll wedi bod ynghau ers 2016, ar ôl i'r wyneb gael ei ddifrodi yn ystod cyfnod o dywydd gwael.

Digwyddodd y difrod ychydig fisoedd yn unig ar ôl i waelod newydd gael ei osod i'r pwll, ar gost o filoedd o bunnau.

Nawr mae Cyngor Ceredigion yn dweud nad oes modd ei agor oherwydd bod "degawdau o erydu wedi amharu ar sefydlogrwydd strwythurol" yr atyniad.

'Rhaid datrys yr ansicrwydd'

Mae'r pwll yn atyniad poblogaidd i blant dros fisoedd yr haf, ac yn ôl un cynghorydd lleol, Ben Davies, mae pwysigrwydd hanesyddol y pwll yn golygu bod rhaid datrys yr ansicrwydd yma am ei ddyfodol.

"Mae'n bechod, achos does dim llawer o bethe i ga'l ar y prom 'ma yn Aberystwyth, ac fe ddylse hwn fod y peth cynta (i gael ei wneud) yn fy nhyb i, ond arian yw popeth," meddai.

"Se hwn yn cael ei ail-wneud, deith e â llawer mwy o bobl i Aberystwyth, dwi'n credu... mae e'n un o'r pethe twristiaeth mwya sydd gyda ni.

"Yn ein hoes ni heddi, mae 'na rhwbeth yn bownd o fod yn gallu cael ei wneud (i'r wyneb) y bydde'n para am oesoedd. Mae bownd o fod rhyw gronfa yn rhywle 'allen ni gael yr arian ar ei gyfer."

Disgrifiad,

Fydd y pwll padlo ar brom Aberystwyth ddim yn ail agor yn ei ffurf bresennol

Fe gadarnhaodd Cyngor Ceredigion eu bod nhw bellach yn gweithio gyda phartner allanol er mwyn "ystyried opsiynau ar gyfer darparu pwll padlo yn y dref yn y dyfodol".

"Byddai hynny'n effeithio ar unrhyw benderfyniadau sydd eto i'w gwneud ynghylch y pwll padlo presennol," meddai'r llefarydd.

Mae BBC Cymru'n deall mai corff o'r enw 'Advancing Aberystwyth ar y Blaen, dolen allanol' ydy'r partner allanol.

Dywedodd un o swyddogion y corff, Mathew Newbold: "Rydym ni yn gobeithio gwneud rhywbeth gyda'r safle, ac mae'r trafodaethau gyda Chyngor Ceredigion yn parhau.

"Mae 'Advancing Aberystwyth ar y Blaen' wedi ymrwymo cyllideb fydd yn talu am gynlluniau posib, er nad ydym ni'n siŵr iawn eto beth yn union fydd yno.

"Rydym ni'n hyderus y bydd rhywbeth yn gallu cael ei wneud gyda'r safle.

Disgrifiad o’r llun,

Mae tyllau a phaent wedi plicio ar waelod y pwll padlo erbyn hyn. Cafodd yr wyneb ei ail-osod yn 2016