'Angen mwy o sgiliau' yn y diwydiant teledu
- Cyhoeddwyd
Mae recriwtio digon o weithwyr addas i gwrdd â gofynion cynyddol cynyrchiadau newydd yn "her eithriadol" i'r diwydiant teledu yng Nghymru, yn ôl rheolwyr y BBC ac S4C
Tra'n cyflwyno ei sylwadau dywedodd Rhodri Talfan Davies, cyfarwyddwr BBC Cymru, bod Cymru wedi datblygu enw da ar gyfer cynhyrchu drama ond bod yn rhaid i'r diwydiant a Llywodraeth Cymru ddelio gyda'r galw cynyddol am weithwyr profiadol.
Ar hyn o bryd, mae pwyllgor diwylliant, y Gymraeg a chyfathrebu'r Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i gynyrchiadau ffilm a theledu mawr yng Nghymru.
Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor dywedodd Mr Davies: "Mae delio gyda diffyg sgiliau o ddiddordeb i gwmnïau darlledu gan ein bod am gomisiynu'r bobl orau a'r bobl fwyaf addas.
"Mae'r [diffyg sgiliau] hefyd o bwys i'r sector gynhyrchu gan eu bod nhw am ennill comisiwn.
"Ac mae hefyd o ddiddordeb i Lywodraeth Cymru i gefnogi hyn gan eu bod nhw angen twf economaidd a chyflogaeth uwch. Rhaid defnyddio dull cyfannol."
Ychwanegodd Simon Winstone, pennaeth drama BBC Studios yng Nghymru fod "pob adran yn wynebu prinder".
BBC Studios - adain gynhyrchu masnachol y gorfforaeth - sy'n gyfrifol am ddramâu fel Casualty, Pobol y Cwm a Doctor Who.
"Mae yna her anferth yn ein hwynebu, dwi'n meddwl, ond un y byddwn yn ymgymryd â hi," meddai.
'Cynnal y sector llawrydd'
Clywodd y pwyllgor hefyd fod S4C wedi bod yn "arloesol" wrth gynyddu nifer y dramâu y maen nhw'n eu comisiynu, a hynny yn wyneb gwasgfa ariannol a chystadleuaeth gan ddarlledwyr eraill.
Roedd gan S4C hefyd bryderon am brinder pobl gyda'r sgiliau addas.
Dywedodd Owen Evans, prif weithredwr y sianel, bod prinder sgiliau yn rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru ymdrin ag ef.
Nododd Mr Evans hefyd bod llai o gyllid yn ystod y blynyddoedd blaenorol wedi golygu nad oes cymaint o staff llawrydd ar gael bellach i weithio ar gynyrchiadau.
"I bob pwrpas mae'r sector llawrydd - y corff o bobl ry'ch ei angen pan mae'r cynyrchiadau mawr 'ma yn cyrraedd - wedi lleihau," meddai.
"Yr her yw cymhwyso'r bobl yma drwy eu haddysgu a rhoi profiad iddynt, ond yr her wedyn yw sicrhau bod gwaith iddynt gydol y flwyddyn.
"Ry'n ni angen cydnabod bod prinder sgiliau, ond mae'n rhaid i ni ystyried sut mae cynnal y sector a sicrhau bywoliaeth i'r bobl yma gydol y flwyddyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2017