Y cyn-ddyfarnwr pêl-droed Gwyn Pierce Owen wedi marw

  • Cyhoeddwyd
GPOFfynhonnell y llun, Uwch Gynghrair Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd eisteddle stadiwm CPD Dinas Bangor ei enwi ar ôl Gwyn Pierce Owen (dde) ar ei ben-blwydd yn 80

Yn 85 oed bu farw'r cyn-ddyfarnwr pêl-droed Gwyn Pierce Owen.

Roedd yn ffigwr adnabyddus a phoblogaidd ymysg cefnogwyr Uwch Gynghrair Cymru, ac yn un o hoelion wyth CPD Dinas Bangor.

Ar ei ben-blwydd yn 80 yn 2014 fe gafodd eisteddle stadiwm Bangor ei enwi ar ôl Mr Owen er mwyn cydnabod ei gyfraniad i'r clwb dros y blynyddoedd.

Yn ei gyfnod fel dyfarnwr yn yr 1970au ac 80au roedd yn cael ei ystyried ymhlith y goreuon yng Nghymru a Lloegr.

Bu'n ddyfarnwr rhyngwladol, ac fe gafodd ddyfarnu gemau ymhob un o brif gystadlaethau Ewrop ar y pryd - Cwpan Ewrop, Cwpan UEFA a Chwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop.

Roedd hefyd yn ddyfarnwr yn un o gemau Cwpan y Byd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwyn Pierce Owen (canol) yn dyfarnu gêm ryngwladol rhwng Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 1982

Ers ymddeol fel dyfarnwr bu'n rhoi llawer o'i amser i Glwb Pêl-droed Dinas Bangor, lle'r oedd mwyafrif y cefnogwyr yn ei adnabod.

Roedd ei hiwmor i'w weld yn gyson pan oedd yn cael ei holi am hynt a helynt y clwb ar y radio a theledu.

'Cawr go iawn'

Cyd awdur 'C'mon Reff!' - hunangofiant Gwyn yng Nghyfres y Cewri, oedd Dylan Llewelyn. Ar ei dudalen Facebook, dywedodd Dylan:

"Does na ddim rhaid i chi fod yn berson tal na mawr i fod yn gawr. Roedd Gwyn Pierce Owen yn gawr go iawn mewn sawl maes a sawl cymuned.

"Mawr yw dyled pêl-droed ym Mangor, Môn a Chymru gyfan am ei gyfraniadau, ei gyfeillgarwch a'i frwdfrydedd ar gaeau ledled yr ardal.

"Mae hyn yn newyddion trist iawn i'w deulu a ffrindiau heddiw, ond mae o'n golled enfawr i'r teulu pêl-droed hefyd.

"Heddwch i lwch dyn unigryw iawn. Braint oedd cael bod yn ffrind i gawr."

Hefyd gan y BBC