Ymestyn rhybudd am stormydd a glaw trwm ledled Cymru

  • Cyhoeddwyd
Rhybudd tywyddFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi ymestyn cyfnod y rhybudd stormydd a glaw trwm ar draws Cymru.

Mae'r rhybudd melyn bellach mewn grym o 06:00 fore Sadwrn tan 06:00 fore Llun.

Mae yna ofnau y gallai rhai ardaloedd gael llifogydd.

Gallai digwyddiadau fel y Penwythnos Mwyaf yn Abertawe gael eu taro, ac mae perygl y gallai llifogydd, mellt, cenllysg neu wyntoedd cryfion achosi trafferthion.

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer Cymru gyfan.

Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd yn cynghori pobl sy'n teithio dros benwythnos gŵyl y banc y gallai'r tywydd achosi amodau gyrru anodd.