Denly'n arwain Caint i fuddugoliaeth yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Joe DenlyFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Joe Denly sicrhau pedair wiced cyn mynd ymlaen i sgorio 150 o rediadau

Fe wnaeth capten Caint, Joe Denly serennu gyda'r bêl a'r bat ddydd Gwener wrth i'w dîm hawlio buddugoliaeth o bedair wiced yn erbyn Morgannwg.

Er ymdrech y batiwr agoriadol, Nick Selman - sgoriodd 92 rhediad - 274 lwyddodd y tîm cartref i'w sgorio, tra bo Denly wedi cymryd pedair wiced i'r ymwelwyr.

Cafodd y capten fatiad gwych hefyd, gan sgorio 150 heb fod allan oddi ar 143 pêl.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Morgannwg eto i ennill yn y Cwpan Undydd y tymor yma - dyma eu pedwaredd colled yn olynol.