Ansicrwydd am ddyfodol Gareth Bale gyda Real Madrid
- Cyhoeddwyd
Mae dyfodol Gareth Bale gyda'r clwb Sbaenaidd Real Madrid yn ansicr, wedi i'r chwaraewr o Gymru ddweud y bydd yn cynnal sgyrsiau gyda'i asiant dros yr haf.
Er gwaethaf y ffaith i Bale ddod ymlaen fel eilydd yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn Kiev nos Sadwrn, fe Sgoriodd Bale y ddwy gôl allweddol i sicrhau'r fuddugoliaeth o 3-1 i Real dros Lerpwl.
Fe ddaeth gôl gyntaf Bale gyda chic hynod bwerus a thrawiadol, tros ei ben, a hynny oddi ar groesiad gan Marcelo.
Fe ddaeth trydedd gôl Real, a'r ail i Bale, ar ôl camgymeriad gan golwr Lerpwl, Karius, a'r gôl honno yn sicrhau trydedd fuddugoliaeth o'r bron yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr i'r rheolwr Zinedine Zidane.
Fodd bynnag ar ôl un o'r perfformiadau mwyaf arwyddocaol yng ngyrfa Gareth Bale, dywedodd ar ôl y gêm ei fod yn siomedig na chafodd ei ddewis i ddechrau'r ffeinal.
"Mae angen i mi fod yn chwarae bob wythnos, ac nid yw hynny wedi digwydd y tymor hwn," meddai Bale wrth sianel BT Sport.