Cau adrannau o ysbyty ym Mhowys oherwydd llifogydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn ymateb i effeithiau tywydd garw mewn rhai ardaloedd o Bowys.
Roedd y Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai llifogydd, mellt, cenllysg neu wyntoedd cryfion achosi trafferthion ar ffyrdd ledled Cymru dros y penwythnos.
Yn dilyn cyfnodau o law trwm yn ardal Y Trallwng, mae rhannau o'r dref wedi bod yn ymateb i achosion o lifogydd.
Mae'r llifogydd wedi achosi i ward famolaeth a'r uned fân anafiadau yn Ysbyty Coffa Victoria i gau.
Mae achosion bydwreigiaeth bellach yn cael eu dargyfeirio i'r Drenewydd, sydd tua 15 milltir i ffwrdd.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd ym Mhowys: "Nid yw'r tywydd wedi effeithio ar ein prif ward, ac mae cleifion yn cael eu derbyn i'n gofal fel arfer.
"Yn anffodus, bu'n rhaid i ni gau'r uned mân anafiadau dros dro ac rydym yn gweithio'n galed i ailagor yr uned cyn gynted ag y bo modd."
Llifogydd yn y gegin
Mae llifogydd hefyd wedi bod yng nghegin yr ysbyty, ond dywedodd y bwrdd iechyd bod prydau bwyd yn cael eu cludo o'r Drenewydd a bod "glanhau mawr ar waith".
Mae Gŵyl Gerddoriaeth Y Trallwng hefyd wedi'i chanslo.
Dywedodd y trefnwyr: "Oherwydd rhybuddion llifogydd gan y gwasanaethau, fel pwyllgor a chyda landlordiaid y lleoliad, rydyn ni wedi dod i'r casgliad bod yn rhaid gohirio Gŵyl Gerdd y Trallwng ar sail iechyd a diogelwch.
"Byddwn yn symud y digwyddiad i ddiwrnod arall, lle nad yw'r risg o dywydd gwael mor uchel ag y mae heddiw."
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Trallwng eu bod wedi derbyn nifer o alwadau fore Sul fod llifogydd yn effeithio ar ardaloedd sy'n cynnwys canol y dref.
Mae'r gwasanaethau brys wedi cynghori pobl i osgoi gyrru ar y ffyrdd, yn benodol Ffordd Salop yn y dref, oni bai fod teithio yn hanfodol.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd y Swyddfa Dywydd eisoes wedi ymestyn cyfnod rhybudd stormydd a glaw trwm ar draws Cymru ar gyfer y penwythnos.
Mae'r rhybudd melyn bellach mewn grym o 06:00 fore Sadwrn tan 06:00 fore Llun.
Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer Cymru gyfan.
Yn y cyfamser nodwyd mai'r lle gwlypaf yng Nghymru yn ystod y 24 awr ddiwethaf - a'r ail gwlypaf yn y DU - oedd Y Bala.