Rhybudd tywydd oren am law trwm dros rannau o Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd oren am law trwm mewn grym ar gyfer de a chanolbarth Cymru, gyda rhybudd melyn hefyd mewn grym i weddill y wlad.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod disgwyl i hyd at 60-80mm o law ddisgyn mewn dwy i dair awr mewn mannau.
Bydd mellt a tharanau a chawodydd cenllysg hefyd yn bosib.
Roedd disgwyl i'r tywydd garw ymledu o dde-ddwyrain Lloegr i'r canolbarth a rhannau o Gymru yn ystod y prynhawn, ac roedd rhybudd y gallai'r glaw trwm hefyd effeithio ar Eisteddfod yr Urdd.
Mae'r rhybudd melyn mewn grym rhwng 11:00 ddydd Iau a 09:00 ddydd Gwener, ac mae'r rhybudd oren mewn grym rhwng 16:00 ddydd Iau a 06:00 ddydd Gwener.
Ardaloedd ble mae'r rhybudd mewn grym:
Abertawe
Blaenau Gwent
Bro Morgannwg
Caerdydd
Caerffili
Casnewydd
Castell-nedd Port Talbot
Ceredigion
Conwy
Gwynedd
Merthyr Tydfil
Pen-y-Bont ar Ogwr
Powys
Rhondda Cynon Taf
Sir Benfro
Sir Ddinbych
Sir Fynwy
Sir Gâr
Torfaen
Wrecsam
Wedi'r rhybudd, mae Network Rail wedi cyflwyno terfyn cyflymder dros lawer o reilffyrdd y gorllewin.
Ni fydd trenau'n cael teithio'n gyflymach na 50mya rhwng 16:00 ddydd Iau a 06:00 ddydd Gwener.
Dywedodd llefarydd ar ran Great Western Railway y byddai'n cael "effaith sylweddol" ar wasanaethau, gan gynnwys canslo rhai trenau.
Bydd unrhyw un sydd ddim yn teithio ddydd Iau yn cael teithio ddydd Gwener yn lle hynny.
Roedd rhaid i siop Asda yng Nghwmbrân gau ddydd Iau ar ôl i'r glaw achosi i ddŵr ddod drwy do'r adeilad.
Roedd disgwyl i'r siop ailagor yn ddiweddarach.