Pennaeth yr Urdd: 'Angen casglu data yn fwy effeithiol'

  • Cyhoeddwyd
Sian Lewis

Mae angen i'r Urdd fod yn fwy siarp a "savvy" wrth ddefnyddio a chasglu data yn yr oes ddigidol, yn ôl prif weithredwr y mudiad Siân Lewis.

Dywedodd y byddai hyn yn help mawr i'r Urdd wrth iddynt geisio cynyddu aelodaeth ac er mwyn cysylltu ag ysgolion sydd ddim yn ymwneud â nhw ar hyn o bryd.

Cafodd Ms Lewis ei phenodi yn Hydref 2017 i'w swydd fel pennaeth ar fudiad sy'n cyflogi dros 300 ac sydd â throsiant o dros £10m y flwyddyn.

Mae'n credu y bydd buddsoddi yn y maes digidol yn "hanfodol" er mwyn cadw cysylltiad a chysylltu'n effeithiol ag aelodau yn y dyfodol.

"Sut y'n ni'n cyfathrebu yn yr oes ddigidol gyda'n cynulleidfa ni a chasglu data a bod yn fwy savvy, dyna'r cwestiwn," meddai.

"D'yn ni ddim yn casglu gwybodaeth yn ddigon effeithiol ar hyn o bryd, fel ydym yn tracio bob aelod, tracio bob ysgol a phob clwb ieuenctid."

Diwallu anghenion

Dywedodd fod gwybodaeth yn bwysig o ran targedu eu cynulleidfa, megis ysgolion oedd yn ymwneud a'r Urdd ar gyfer yr Eisteddfod "ond ddim o ran y gymuned neu chwaraeon".

Ychwanegodd fod gwybodaeth o'r fath yn allweddol wrth geisio parhau i ddiwallu gofynion pobl ifanc.

"Mae pobl ifanc heddiw, yn fyd eang, yn fwy soffistigedig yn eu hanghenion, maen nhw'n gwybod beth maen nhw eisiau. Maen nhw eisiau pethau sy'n benodol i'w diddordebau," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai ysgolion ond yn ymwneud ag Eisteddfod yr Urdd, ac yn hepgor gweithgareddau eraill fel y chwaraeon, yn ôl Ms Lewis

"Mae oes yr adran aelwydydd yn y ddinas wedi hen fynd. 'Di hynny ddim i ddweud ei bod wedi mynd yn yr ardaloedd gwledig.

"Felly bydd o ddim yr un patrwm ym mhob sir, o bosib beth sy'n gweithio yn yr ardaloedd gwledig, fydd o ddim yn gweithio mewn ardaloedd trefol.

"Mae plant sydd â diddordeb mewn chwaraeon eisiau'r cyfle i wneud hynny, d'yn nhw ddim o bosib eisiau aelwyd a'r cyfle i wneud 'chydig o bopeth ond maen nhw eisiau'r cyfle i wneud chwaraeon.

"Mae plant sy'n hoff o'r celfyddydau eisiau profiad o'r celfyddydau."

Buddsoddiad ariannol

Yn 2022 fe fydd y mudiad sydd â thua 55,000 o aelodau yn dathlu 100 mlwyddiant ers ei sefydlu.

"Mae nifer o brosiectau ar y gweill ac fe fydd o'n garreg filltir fawr, ac rydym yn trafod a chasglu syniadau gyda staff a gwirfoddolwyr," meddai'r prif weithredwr.

Dywedodd Ms Lewis mai'r flaenoriaeth am y tair blynedd nesaf fodd bynnag yw sicrhau'r buddsoddiad maen nhw am ei weld er mwyn datblygu gwersylloedd Glan-llyn a Llangrannog.

Ddechrau'r wythnos fe wnaeth yr Urdd amlinellu cynlluniau uchelgeisiol gwerth £5.5m i ddatblygu'r gwersylloedd.

Mae'r mudiad yn dweud eu bod yn ffyddiog o godi hanner yr arian cyfalaf eu hunain, gyda'r gweddill yn dod o ffynonellau eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Gwersyll Yr Urdd Glan-llyn, ar lan Llyn Tegid

Ar hyn o bryd mae'r gwersylloedd yn dod ag incwm sylweddol o £5.2m y flwyddyn i'r Urdd.

"Bydd y buddsoddiad yn rhoi sefydlogrwydd ariannol i'r mudiad," meddai Ms Lewis

"Yn ogystal â gwella profiad yr ymwelydd mae'n help i ni gryfhau ein hincwm."

Dywedodd fod gan yr Urdd drosiant o dros £10m bob blwyddyn a bod 81% o incwm yn "dod o arian rydym yn creu ein hunain".

"Dim ond 19% o'r arian sy'n dod o'r pwrs cyhoeddus," ychwanegodd.

"Pe bai'r pwrs cyhoeddus yn cau yn gyfan gwbl byddai'r Urdd yn parhau."