Yr Urdd yn gosod nod i'w hunain i greu 100 prentisiaeth

  • Cyhoeddwyd
Lleucu Aeron gyda chydlynydd digwyddiadau Gemau Cymru, Jessica Stacey a phrentis arall gyda'r Urdd, Jack Perkins
Disgrifiad o’r llun,

Lleucu Aeron gyda chydlynydd digwyddiadau Gemau Cymru, Jessica Stacey a phrentis arall gyda'r Urdd, Jack Perkins

Mae'r Urdd wedi gosod nod i'w hunain i greu 100 o brentisiaethau erbyn iddyn nhw ddathlu eu pen-blwydd yn 100 oed yn 2022.

Dywedodd prif weithredwr y mudiad ieuenctid, Siân Lewis y byddai cyrraedd y nod yn golygu mai'r Urdd fyddai'r cyflogwr sy'n cynnig y mwyaf o brentisiaethau i Gymry Cymraeg yn y sector preifat yng Nghymru.

Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, sy'n dweud bod prinder o brentisiaethau iaith Gymraeg ar gael ar hyn o bryd.

Mae'r Urdd yn cynnig 34 o brentisiaethau ar hyn o bryd, yn bennaf ym meysydd chwaraeon ac awyr agored.

Bydd y cynllun yn golygu ehangu i feysydd newydd fel marchnata, digwyddiadau, dylunio a gofal cwsmer.

'Creu cyfleon'

Dywedodd Ms Lewis: "Amcan ganolog yr Urdd yw creu cyfleon - cyfleon i gymdeithasu, mwynhau, cyd-weithio a chyd-chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Adeiladu ar y sail hwn yw'r bwriad ac rwy'n hyderus y bydd gennym 100 prentis yn eu lle erbyn ein canmlwyddiant."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn bwysig bod prentisiaethau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg

Ar faes yr Eisteddfod yn Llanelwedd dywedodd Ms Morgan fod gan Lywodraeth Cymru nod eu hunain o greu 100,000 o brentisiaethau ymhen pum mlynedd.

"Mae beth mae'r Urdd wedi ei wneud yn galonogol," meddai.

"Beth sy'n bwysig yw ein bod yn cael mwy o siaradwyr Cymraeg i wneud eu prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'r Urdd yn ganolog i wireddu'r nod yna."

'Ein cadw ni ar y blaen'

Mae Lleucu Aeron yn un o'r rhai sydd eisoes wedi elwa o brentisiaeth gyda'r Urdd.

"Rwy'n dod o Geredigion, o Ddyffryn Aeron, sy'n ardal Gymreig iawn ac mae gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg tra'n darparu gwasanaeth chwaraeon, sy'n bwysig iawn i blant a phobl ifanc mewn lle mor wledig," meddai.

"Mae'n rhoi lot o brofiad a chadw ni ar y blaen o ran chwaraeon ac ati, a chadw safon y Gymraeg."