Cwpan Undydd: Morgannwg yn trechu Sussex

  • Cyhoeddwyd
Colin IngramFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Morgannwg wedi ennill yn y Cwpan Undydd am y tro cyntaf y tymor hwn ar ôl trechu Sussex o chwe wiced.

Llwyddodd Surrey i sgorio 277-8 yn eu batiad nhw, gyda David Wiese a Michael Burgess yn cael dros hanner can rhediad yr un.

Tim van der Gugten oedd fwyaf llwyddiannus ymhlith bowlwyr Morgannwg, gan gymryd tair wiced.

Pan ddaeth hi at dro'r tîm cartref i fatio, Colin Ingram oedd y seren gan sgorio 95 heb fod allan.

Cyrhaeddodd Morgannwg 281-4 gydag ychydig llai na dwy belawd i fynd, gyda Kiran Carlson hefyd yn sgorio 59 i selio'r fuddugoliaeth.