Gwrthod cais i ehangu hediadau rhwng Caerdydd a Môn

  • Cyhoeddwyd
Eastern AirwaysFfynhonnell y llun, AirTeamImages.com
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud cais i ddefnyddio awyrennau 30 sedd ar y gwasanaeth

Mae cais gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y seddi ar hediadau rhwng Caerdydd ac Ynys Môn wedi cael ei wrthod gan Lywodraeth y DU, yn ôl swyddogion.

Y gobaith oedd y byddai Llywodraeth y DU yn llacio rheolau diogelwch yn Y Fali i alluogi awyrennau mwy i hedfan oddi yno.

Ond clywodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad bod y cais wedi'i wrthod.

Dywedodd un swyddog bod pobl ddim yn gallu cael lle ar yr hediadau ar adegau am eu bod yn llawn.

Mae'r gwasanaeth rhwng Caerdydd a Môn yn derbyn £1.2m o gymorth pob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru.

'Galw cynyddol'

Clywodd y pwyllgor bod cais wedi'i wneud i gael defnyddio awyrennau sydd â hyd at 30 sedd ar gyfer yr hediadau.

Byddai hynny'n cynyddu capasiti bron i 50%, ac yn ateb y "galw cynyddol mae Eastern Airways wedi'i weld dros y 12 mis diwethaf".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Simon Jones bod "pobl ddim yn gallu archebu lle ar yr awyren"

Ond dywedodd swyddogion Llywodraeth Cymru na fyddai'r cais yn cael ei gymeradwyo, gan ddisgrifio'r penderfyniad fel un "siomedig dros ben".

Dywedodd cyfarwyddwr adran isadeiledd Llywodraeth Cymru, Simon Jones bod "pobl ddim yn gallu archebu lle ar yr awyren am ein bod wedi cyfyngu" gan gapatisi 19 sedd y gwasanaeth.

"Yn aml mae gen i gydweithwyr yn dweud wrthai nad ydyn nhw wedi gallu archebu lle ar y gwasanaeth am ei fod yn llawn," meddai.

"Dyna'r broblem fwyaf sydd gennym rhag tyfu - y cyfyngiad o ran maint yr awyren 'dyn ni'n gallu ei ddefnyddio ym Maes Awyr Ynys Môn."