Cymro ifanc wedi marw ar ôl disgyn o falconi yn Sbaen

  • Cyhoeddwyd
Thomas Owen Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Thomas Owen Hughes ar wyliau yn Magaluf ar ynys Majorca

Mae dyn ifanc o Wrecsam wedi marw wedi iddo ddisgyn o falconi ar ei wyliau yn Sbaen.

Y gred yw bod Thomas Owen Hughes, 20, wedi marw ar ôl disgyn tua 20 metr (65 troedfedd) o'r balconi tra ar wyliau yn Magaluf ar ynys Majorca dros y penwythnos.

Dywedodd y Swyddfa Dramor eu bod yn "darparu cymorth i deulu dyn o Brydain fu farw ar 3 Mehefin yn Majorca" a'u bod mewn cysylltiad â'r awdurdodau yn Sbaen.

Mae ffrindiau Mr Hughes - cyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni - wedi dechrau codi arian er mwyn talu i ddod â'i gorff yn ôl i Gymru.

Hyd yn hyn mae'r ymgyrch ar-lein wedi codi bron i £6,000.

Dywedodd Josh Halliwell, wnaeth ddechrau'r ymgyrch codi arian: "Roedd Tom yn berson gwych, fyddai'n helpu unrhyw un, ac roedd yn bleser i'w gael o'ch cwmpas."