Byd ffilmiau'n 'camddeall marchnad cynyrchiadau Cymraeg'

  • Cyhoeddwyd
Y Gwyll
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Curtis fod cynyrchiadau fel Y Gwyll wedi dangos bod marchnad i ddramau Cymraeg ag isdeitlau

Mae'n "broblem" nad yw'r diwydiant ffilmiau yn deall potensial cynyrchiadau iaith Gymraeg, yn ôl un arweinydd undeb.

Dywedodd Simon Curtis, trefnydd Equity yng Nghymru, fod cynyrchiadau ag isdeitlau'n mynd fwyfwy poblogaidd ac felly'n cynnig cyfleoedd newydd i'r iaith.

Does dim llawer o ffilmiau Cymraeg wedi'u cynhyrchu'n ddiweddar, fodd bynnag, yn rhannol meddai oherwydd toriadau i gyllideb S4C.

Ychwanegodd bod angen i actorion o Gymru gael mwy o gyfleoedd pan mae'n dod at rannau mewn ffilmiau a chyfresi sy'n cael eu ffilmio yng Nghymru.

Isdeitlau

Wrth roi tystiolaeth i bwyllgor diwylliant y Cynulliad, dywedodd Mr Curtis ei fod yn cytuno â Bethan Sayed AC bod y diffyg ffilmiau iaith Gymraeg yn "broblemataidd".

"S4C sydd wedi bod yn bennaf cyfrifol am gynhyrchu'r rheiny, ond wrth i'w cyllideb nhw gael ei gwtogi, maen nhw wedi ymrwymo llai i hynny," meddai.

"Ond dwi'n meddwl bod camddealltwriaeth o'r farchnad ar gyfer cynyrchiadau iaith Gymraeg - mae Y Gwyll/Hinterland wedi dangos hynny.

"Mae hynny wedi tyfu dros y pedair, pum mlynedd diwethaf, ac wedi dod yn haws eu cyrraedd i bobl."

Ychwanegodd: "'Dych chi'n canfod bod pobl yn fwy tebygol bellach o wylio rhaglenni gydag isdeitlau."

simon curtis
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Mr Curtis mae tua thraean o'r 1,600 o aelodau Equity sy'n byw yng Nghymru yn siaradwyr Cymraeg

Dywedodd Mr Curtis y byddai'n disgrifio cyflwr cynhyrchu ffilm yng Nghymru a'r DU fel un "hynod iachus" ar y cyfan.

Ond doedd nifer o gynyrchiadau sydd wedi'u cyllido gan Lywodraeth Cymru, meddai, ddim yn cynnwys llawer os nad unrhyw actorion o Gymru.

Ychwanegodd bod actorion Cymreig dan anfantais oherwydd bod clyweliadau'n cael eu cynnal yn Llundain, a bod teimlad ymhlith rhai cyfarwyddwyr "nad oes unrhyw dalent yma".

Yn hytrach, roedden nhw'n teimlo y gallen nhw ddod o hyd i'r bobl roedd eu hangen arnyn nhw yn ne-ddwyrain Lloegr.

'Dim cwotas'

Dywedodd bod cyfleoedd tramor i berfformwyr o Gymru hefyd yn prinhau oherwydd ansicrwydd ynghylch Brexit.

Roedd rhyddid i symud o wlad i wlad yn "beth enfawr" i actorion, meddai, ac fel arall roedd hi'n bosib na fydden nhw'n gallu gweithio ar gynyrchiadau teledu mawr sy'n cael eu ffilmio yn yr UE.

"Os 'dych chi'n mynd i weithio yn yr UDA mae'n rhaid cael fisa - mae dealltwriaeth o hynny," meddai Mr Curtis.

"Os oes rhaid iddyn nhw fynd drwy gais fisa [i Ewrop] mae hynny'n rhwystr ychwanegol."

Dywedodd fodd bynnag y byddai ganddo "bryderon" petai cymorth ariannol yn gysylltiedig â chael cwota ar gyfer actorion Cymreig, gan ddweud mai dim ond y cyfle i gael cyfweliad roedden nhw ei angen.

"Unwaith maen nhw mewn yn yr ystafell 'na... 'dych chi'n gadael pethau i'w talentau nhw," meddai.