'Diffyg cyfle' i dalent o Gymru, medd actorion

  • Cyhoeddwyd
sharon

Mae dau actor Cymraeg wedi dweud wrth un o bwyllgorau'r Cynulliad bod angen defnyddio talent Cymreig wrth wneud ffilmiau a rhaglenni teledu yng Nghymru.

Rhoddodd Sharon Morgan, sydd wedi gweithio fel actores ers 1970 yn Gymraeg a Saesneg, ei thystiolaeth hi yn ysgrifenedig i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

Bu Julian Lewis Jones - seren y ffilm Invictus - yn rhoi tystiolaeth eiriol gerbron y pwyllgor.

Roedd y ddau yn dweud nad yw talent o Gymru yn cael digon o gyfle mewn cynyrchiadau sy'n cael eu gwneud yma.

Mae'r Pwyllgor yn ymchwilio i gynyrchiadau ffilm a theledu mawr yng Nghymru, ac roedd y ddau actor yn ddi-flewyn ar dafod yn eu sylwadau.

'Sefyllfa chwerthinllyd'

Dywedodd Sharon Morgan: "Mae'n dristwch mawr i mi erbyn hyn i weld ein dramâu cynhenid yn y ddwy iaith yn diodde'.

"Mae'r cyllidebau bach iawn yn golygu ei bod hi bron yn amhosib creu dramâu o safon heb i'r criwiau technegol a'r actorion gyfaddawdu eu crefft.

"Wrth i'r esgid wasgu mae'r cyd-gynyrchiadau cefn wrth gefn, wedi eu hysgrifennu yn Saesneg a'u cyfarwyddo, gan fwyaf, gan rai sydd ddim yn medru'r Gymraeg yn cyfaddawdu'r cynyrchiadau ymhellach."

Roedd cyfresi diweddar a gafodd eu gwneud yn Gymraeg a Saesneg yn destun pryder arbennig i Ms Morgan. Ychwanegodd:

"Gwelon ni'r sefyllfa chwerthinllyd yn Un Bore Mercher {a gafodd ei dangos yn Gymraeg ar S4C ac yna yn Saesneg fel 'Keeping Faith' ar BBC Cymru} ble roedd y brif actores hyd yn oed ddim yn siarad Cymraeg... mae Craith hefyd yn enghraifft o ddiffyg parch at y Gymraeg sy'n anwybyddu natur dafodiaethol y Gymraeg.

"Mae'r dramâu yma'n cael eu castio gan Saeson o Lundain sy'n parchu actorion sy'n enwog yn Lloegr, ac yn anwybyddu llawer o'n hactorion gorau ni."

Julian Lewis Jones

'Dibwys ac israddol'

Sôn am fyd ffilmiau oedd Julian Lewis Jones pan ddywedodd wrth y pwyllgor: "Beth sydd wedi digwydd yn ddiweddar yng Nghymru yw ein bod ni'n cynhyrchu ffilmiau fel lleoliad, ond nid gyda thalent o Gymru a dyw nhw ddim yn ffilmiau sy'n sefyll dros Gymru.

"Maen nhw'n gynyrchiadau sy'n dod i Gymru - ry'n ni'n hapus iddyn nhw wneud hynny, ac yn hapus bod y sêr yn dod yma ac yn y blaen - ond ry'n ni ar ein colled am nad yw ffilmiau Cymreig yn cael eu gwneud."

Ychwanegodd fod rhai cynhyrchwyr o'r tu allan i Gymru yn gweld acen Gymreig fel problem.

"Mae stigma am ein hacen o hyd," meddai. "Nid i bawb wrth gwrs, ond mae'n bodoli weithiau."

Roedd Sharon Morgan hefyd yn feirniadol, gan ychwanegu: "Mae'r cwmnïau yma, fel y pwyslais ar y Saesneg yn y cynyrchiadau cefn wrth gefn, yn ein hatgoffa drosodd a throsodd bod ein hunaniaeth ni yn amherthnasol, yn ddibwys ac yn israddol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:" Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu cefnogaeth sylweddol i ffilmiau cynhenid Cymraeg a phrosiectau sy'n cael eu darlledu ar deledu a phlatfformau ar-lein.

"Er enghraifft rydym yn falch o gefnogi'r ddrama lwyddiannus y BBC, Un Bore Mercher, gafodd ei chynhyrchu'n ddwyieithog oedd yn llawn o Gymry talentog."

Sharon Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Sharon Morgan yn y ffilm 'Y Llyfrgell'

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Gydag actorion Cymreig yn serennu ym mhob un, mae'r dramau sy'n gyd-gynyrchiadau rhwng S4C a'r BBC wedi profi'n rhai poblogaidd iawn dros y blynyddoedd. O Y Gwyll/Hinterland i Un Bore Mercher/Keeping Faith a Craith/Hidden - fydd i'w weld ar BBC One Wales a BBC Four fis nesaf - mae'r cyfresi wedi cael ymateb cadarnhaol tu hwnt.

"Mae'r model o gyd-gynhyrchu - sy'n boblogaidd ymhlith darlledwyr ar draws y byd - yn sicrhau fod adnoddau i greu dramau pwerus a phellgyrhaeddiol."

Ychwanegodd llefarydd ar ran S4C eu bod yn "falch iawn o roi llwyfan i grefft actorion Cymraeg", a bod eu cynyrchiadau diweddar yn "ddramâu llwyddiannus sy'n apelio at gynulleidfa eang".

"Mae cyd-gynhyrchu yn fodel llwyddiannus i ni, sy'n gallu ychwanegu gwerth a chreu cyllidebau mwy ar gyfer rhaglenni uchelgeisiol i wylwyr yn yr iaith Gymraeg, heb gyfaddawdu ar safon," meddai.

"Rydym yn falch iawn o gyd-weithio gyda phartneriaid cynhyrchu a dosbarthu er mwyn creu dramâu rhagorol sydd at fodd ein gwylwyr craidd ac sy'n apelio at gynulleidfa ehangach yr un pryd, gan ymestyn y gwaith ar lwyfan rhyngwladol."