Apêl i yrrwyr cerbydau 4x4 barchu llwybrau Eryri
- Cyhoeddwyd
Mae swyddogion Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (APCE) a pherchnogion tir lleol yn apelio ar yrwyr cerbydau 4 x 4 i beidio â chrwydro oddi ar lwybrau penodol wrth yrru ym Meirionnydd.
Dros y misoedd diwethaf mae hen lwybrau trol a'r tiroedd o'u hamgylch yn ardal Pennal, Bont Ddu a Phont Scethin yn ne Meirionnydd wedi eu difrodi'n helaeth gan gerbydau 4 x 4.
O ganlyniad, mae wyneb y tir wedi ei ddifrodi, ffosydd wedi'u creu, ac mae nifer o gynefinoedd bregus wedi'i difrodi.
'Parchu eiddo a bywoliaeth'
Dywedodd Peter Rutherford, Swyddog Mynediad APCE: "Mae'r perchnogion tir lleol yn derbyn taliadau gan Lywodraeth Cymru ac Ewrop am reoli eu tir yn gynaliadwy gan warchod a gwella bioamrywiaeth mewn ffordd cost effeithiol.
"Ond gan fod y llwybrau ar eu tir yn cael eu distrywio'n gynyddol gan weithgareddau oddi ar y ffordd, gall hyn gael effaith ar eu taliadau Glastir a'u bywoliaeth.
"Er nad oes gennym ni wrthwynebiad i bobl ddod i fwynhau'r ardaloedd hyn ac arfer eu hawliau cyfreithiol yn eu cerbydau, rydan ni'n apelio ar y gyrwyr ar yr un pryd i barchu eiddo, bywoliaeth a hawliau defnyddwyr eraill wrth wneud hynny.
"Ni ddylai gyrwyr gael eu temtio i yrru oddi ar unrhyw lwybr, yn arbennig os yw hi'n bosib creu mwy o ddifrod arnyn nhw."
'Sicrhau mynediad'
Mae cymdeithas ceir Green Lane Association (GLASS) yn un sefydliad sy'n cyfrannu at adnewyddu rhai o'r llwybrau.
Dywedodd Matt Henchcliffe o gangen Meirionnydd y gymdeithas: "Mae GLASS, sy'n gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac Adran Priffyrdd Cyngor Gwynedd, wedi ymrwymo i yrru diogel, parchus yn Eryri, gan sicrhau am flynyddoedd i ddod y bydd mynediad ar gael i bob defnyddiwr.
"Mae GLASS yn hyrwyddo'r defnydd o god ymddygiad wrth yrru ar bob lôn werdd.
"Mae'r ymddygiad parchus hwn yn helpu sicrhau bod gyrwyr yn defnyddio llwybr dynodedig cyfreithiol yn unig, yn cefnogi systemau unffordd er mwyn lleihau'r galw am waith cynnal a chadw, yn sicrhau fod mynediad agored i bawb, ac na fydd angen cau lonydd."