Carchar am 18 mis i yrrwr am barlysu beiciwr modur
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr wedi cael ei garcharu wedi i feiciwr modur a gafodd ei daro mewn gwrthdrawiad ar yr A5 gael ei barlysu.
Cafodd Darren Hamilton Smith ei gludo mewn hofrennydd i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol iawn ar ôl y gwrthdrawiad yn Nant Ffrancon ym mis Ebrill.
Fe wnaeth Dean Howard, 26 oed o Ddulyn, bledio'n euog i achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus a chafodd ei garcharu am 18 mis.
Yn ôl y barnwr Huw Rees roedd canlyniadau dynol yr achos yn "ofnadwy".
'Trychineb enfawr'
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A5 yn Nyffryn Ogwen ar 21 Ebrill eleni wrth i gar Ford Focus Mr Howard wirio i ochr anghywir y ffordd cyn taro beic modur Mr Smith.
Clywodd y barnwr fod Mr Smith wedi ei barlysu o'r frest i lawr ar ôl iddo dorri ei wddf, ei gefn, asennau ac ardal y pelfis.
Roedd Mr Smith mewn cyflwr difrifol yn dilyn y digwyddiad, ond mae o bellach mewn cyflwr sefydlog.
Yn ôl cyn bartner Mr Smith, Joanna, mae'n "dad arbennig" a bod "bywydau'r teulu wedi cael eu troi ben i waered".
'Pawb ar eu colled'
Roedd Mr Howard yn gyrru 45mya gyda'i ddarpar wraig pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Fe arhosodd Mr Howard a'i bartner gyda Mr Smith ar ôl y gwrthdrawiad yn ceisio ei gadw yn effro.
Dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyn John Marsh ei fod yn "drychineb enfawr" a bod "pawb ar eu colled".
Cafodd Howard hefyd ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd a naw mis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2018
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2018