Pencampwriaeth y Siroedd: Poysden yn cymryd wicedi Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Josh PoysdenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Josh Poysden oedd y seren i Sir Warwick

Fe gymerodd Josh Poysden bum wiced dros Sir Warwick wrth iddyn nhw fowlio Morgannwg allan am 220 ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Yr ymwelwyr enillodd y tafliad a phenderfynu batio gyntaf, a hynny ar ddiwrnod cyntaf yr ornest yn Edgbaston.

David Lloyd oedd prif sgoriwr Morgannwg gyda 39, ond roedd batiwr newydd y sir Usman Khawaja allan am bedwar rhediad.

Dechreuodd batiad Sir Warwick yn wael wrth i Will Rhodes gael ei fowlio gan Lukas Carey gyda'r bêl gyntaf.

Daeth y chwarae i ben gyda'r tîm cartref ar 24-2, wrth iddyn nhw hefyd golli wiced Dominic Sibley.