Ian Bell yn cael canred i Sir Warwick yn erbyn Morgannwg
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Ian Bell i sgorio canred wrth i Sir Warwick wella o ddechrau siomedig ddydd Sadwrn i'w batiad cyntaf yn erbyn Morgannwg.
Roedd y tîm o Gymru wedi sgorio 220 rhediad ar ddiwrnod cyntaf yr ornest yn Edgbaston, cyn cymryd dwy o wicedi Sir Warwick.
Ond llwyddodd y tîm cartref i sgorio 250 ar yr ail ddiwrnod cyn i Forgannwg eu bowlio nhw allan, gyda Bell yn serennu gyda 106 a'r capten Jonathan Trott hefyd yn sgorio 57.
Timm van der Gugten gymerodd dair o wicedi Sir Warwick, gyda Lukas Carey ac Andrew Salter hefyd yn cymryd dwy yr un.
Cyrhaeddodd Morgannwg 55 heb golled yn eu hail fatiad nhw cyn i'r chwarae ddod i ben am y dydd.