Cau swyddfa papur newydd y Carmarthen Journal
- Cyhoeddwyd
Bydd swyddfa papur newydd y Carmarthen Journal yng Nghaerfyrddin yn cau ddiwedd y mis, gan orfodi eu staff i symud.
Dywedodd y cwmni sy'n cyhoeddi'r papur, Reach PLC - Trinity Mirror gynt - eu bod wedi "penderfynu peidio adnewyddu'r les ar ein swyddfa yng Nghaerfyrddin".
Fe fydd y chwech sy'n gweithio yno yn symud i swyddfa'r cwmni yn Abertawe neu'n gweithio o gartref.
Dywedodd y cwmni na fyddai cau'r swyddfa yn cael effaith ar gyhoeddiad y papur wythnosol.
Dyma fydd y tro cyntaf ers 1810 - pan ddechreuodd y Journal - i Gaerfyrddin fod heb swyddfa bapur newydd yn y dref.
Daw'r cyhoeddiad chwe mis wedi i bapur newydd arall sy'n cael ei gyhoeddi gan Reach PLC, y Llanelli Star, hefyd gau eu swyddfa nhw.