Morgannwg yn colli o bediar wiced yn erbyn Sir Warwick

  • Cyhoeddwyd
Ian BellFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ian Bell yn serennu i Sir Warwick wrth iddyn nhw ennill yn gyfforddus yn erbyn Morgannwg

Llwyddodd Sir Warwick i ennill yn gyfforddus o bedair wiced ar bedwerydd diwrnod eu gêm yn erbyn Morgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn Edgbaston.

Fe darodd y batiwr Ian Bell (115 heb fod allan) ei ail ganred o'r gêm i arwain ei dîm i fuddugoliaeth gyda sgôr o 294-6.

Er i Usman Khawaja sgorio canred ar ei ymddangosiad cyntaf i Forgannwg ddydd Llun i sicrhau diwrnod olaf cyffrous, doedd eu hymdrechion ddim yn ddigon ar y diwrnod olaf.

Llwyddodd Khawaja i gael 125 rhediad i helpu ei dîm i gyfanswm o 323, gan osod targed o 294 i'r tîm cartref ddydd Llun.

Fe wnaeth Andrew Salter hawlio 4-80 i Forgannwg, ond roedd ei ymdrechion yn rhy hwyr wrth iddyn nhw ddioddef eu trydedd colled yn olynol yn y Bencampwriaeth.

Roedd absenoldeb capten Morgannwg, Michael Hogan yn amlwg wrth i'w dîm ymdrechu'n galed, ond yn ofer heb ei ddylanwad.