ACau'n atal penodiad Neil Hamilton fel comisiynydd
- Cyhoeddwyd
Mae cyn arweinydd UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton, wedi cael ei atal rhag bod yn aelod o'r corff sy'n goruchwylio gweinyddiaeth y sefydliad.
Fe bleidleisiodd ACau o fwyafrif - 31 i 17 - yn erbyn enwebiad i'w benodi'n gomisiynydd yn y Cynulliad.
Roedd ACau o'r Blaid Lafur a phleidiau eraill o'r farn nad oedd Mr Hamilton yn ddewis addas ar ôl iddo ymatal ei bleidlais yn hytrach na chefnogi polisi i fynd i'r afael ag aflonyddu o fewn y corff deddfwriaethol.
Mae'n anarferol iawn i aelodau atal enwebiadau'r pleidiau unigol ynglŷn â'r cynrychiolwyr ar y corff.
Roedd grŵp UKIP yn y Senedd wedi ei enwebu i gymryd lle Caroline Jones, a wnaeth ei ddisodli fel arweinydd y blaid yn y Cynulliad.
Ond roedd angen cymeradwyaeth ACau i'r penodiad.
Pleidiau'n enwebu
Mae pedwar o gomisiynwyr yn goruchwylio agweddau gwahanol ar drefniadau rhedeg y Cynulliad, ac yn derbyn cyflogau uwch nag ACau ar y meinciau cefn.
Mae'r pedair plaid yn y Senedd yn enwebu un aelod i'w cynrychioli, a does dim gwrthwynebiad fel arfer i'r enwebiadau.
Cyn iddo golli ei swydd fel arweinydd grŵp UKIP, fe wnaeth Mr Hamilton ymatal ei bleidlais wrth i'r Senedd drafod polisi dros dro yn ymwneud â thaclo ymddygiad amhriodol. Cafodd y polisi gefnogaeth mwyafrif yr aelodau yn y siambr.
Dadl Mr Hamilton oedd y byddai ACau "dan wyliadwriaeth pobl o'r tu allan" o ganlyniad mabwysiadu'r polisi.
Dywedodd AC Llafur Cwm Cynon, Vikki Howells cyn y bleidlais ddydd Mercher na fyddai'n cefnogi'r enwebiad, am na allai "wynebu cefnogi rhywun sydd wedi methu â chymeradwyo polisi... mae urddas a pharch yn hanfodol i'r ffordd y mae'n rhaid i'r Cynulliad weithredu."
Pe byddai Mr Hamilton wedi cael ei benodi'n gomisiynydd fe fyddai wedi derbyn £13,578 yn ychwanegol ar ben y cyflog sylfaenol o £65,847 ar gyfer ACau meinciau cefn - cyfanswm o £80,425.
Roedd yn arfer derbyn £85,000 pan oedd yn arweinydd grŵp.
Dywedodd Caroline Jones wrth BBC Cymru ym mis Mai, cyn cyflwyno'r enwebiad, mai David Rowlands gafodd cais yn wreiddiol i wneud y gwaith ond fe roedd yntau wedi "ildio" i Mr Hamilton am ei fod yn "mwynhau" ei waith fel cadeirydd y pwyllgor deisebau.