Cau ffyrdd i ddelio â thân mawr ym Mhontypridd

  • Cyhoeddwyd
Fan ar dânFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae fan i'w weld ar dân ar y safle

Mae Heddlu De Cymru wedi cau dwy ffordd ym Mhontypridd yn dilyn tân mawr ar safle diwydiannol.

Cafodd diffoddwyr eu galw i'r digwyddiad mewn adeilad un llawr ger Heol Pentrebach am tua 17:00 nos Fercher.

Mae mwg du trwchus i'w weld, a dywedodd rhai tystion eu bod wedi clywed ffrwydradau.

Cafodd rhai tai eu gwagio ond mae pobl bellach wedi cael dychwelyd iddynt, ond mae trigolion wedi cael eu hannog i gau eu drysau a ffenestri.

Does dim gwybodaeth eto am achos y tân, ond dywedodd yr heddlu nad oes unrhyw un wedi'u hanafu

Dywedodd Jennie Griffiths o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod "difrod strwythurol sylweddol i'r adeilad".

Mae pedair injan dân wedi mynychu'r digwyddiad.