Ymchwiliad i ddechrau i achos tân mawr ym Mhontypridd

  • Cyhoeddwyd
Fan ar dânFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae fan i'w weld ar dân ar y safle

Bydd ymchwiliad yn dechrau ddydd Iau i achos tân mawr ym Mhontypridd.

Cafodd dwy ffordd eu cau wedi i'r tân gynnau mewn adeilad un llawr ger Heol Pentrebach tua 17:00 nos Fercher.

Roedd mwg du trwchus i'w weld yn yr ardal, a dywedodd rhai tystion eu bod wedi clywed ffrwydradau.

Cafodd rhai tai eu gwagio ond mae pobl bellach wedi cael dychwelyd iddyn nhw, er bod trigolion wedi eu hannog i gau eu drysau a ffenestri.

Does dim gwybodaeth eto am achos y tân, ond dywedodd yr heddlu na chafodd unrhyw un ei anafu.

Cafodd pedair injan dân eu hanfon i ddiffodd y fflamau, a dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod "difrod strwythurol sylweddol i'r adeilad".