Beicwyr eisiau sicrwydd am ddatblygiad twristaidd
- Cyhoeddwyd
Mae beicwyr mynydd yn Abertawe wedi galw ar y cyngor sir i sicrhau nad yw llwybrau beicio ar fynydd Cilfái yn cael eu dinistrio gan ddatblygiad posib ar y safle.
Cwmni o Seland Newydd sydd y tu ôl i'r cynllun, sy'n cynnwys adeiladu car cebl, reidiau tobogan, gwifren wib a bwyty.
Er mai nhw fyddai'r ariannu'r datblygiad maen rhaid iddynt gael caniatâd cynllunio gan yr awdurdod lleol.
Mae'r cwmni wedi dechrau gwneud dyluniad manwl o'r datblygiad posib a chynnal trafodaethau cyfreithiol gyda Chyngor Abertawe.
Ond mae rhai beicwyr mynydd yn poeni am yr effaith ar y llwybrau sydd yno.
Yn ôl y cyngor maent yn benderfynol o wella'r ddarpariaeth o weithgareddau sydd ar y mynydd.
Dywedodd Rhys Ap Gwent, sy'n feiciwr mynydd amatur: "Mae mynydd Cilfái yn le gwyrdd, naturiol, hardd dros ben, sydd reit ar ymyl dinas brysur iawn.
"Ma fe'n cael ei ddefnyddio ac yn cael ei fwynhau gan gannoedd o bobl sy'n cerdded, rhedeg a beicio.
"Gan fod e'n le mor arbennig, o'n ni ddim mo'yn bod unrhywbeth sy'n cael ei adeiladu yn amharu ar y defnydd sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd, achos ma' nhw'n sôn am adeiladu bwyty, man gwylio, cable car a tobogan, ac wedyn 'ny gyda phopeth fydd yn gwasanaethu rheina wy'n becso bydd dim lle ar ôl i ni."
Ymateb 'calonogol'
Fe ysgrifennodd Mr ap Gwent at yr awdurdod lleol i ofyn a oedd beicio mynydd yn mynd i fod yn rhan o'r cynllun ac os oedd yna beryg y byddai rhai o'r llwybrau beicio yn diflannu.
"Wedon nhw bod popeth dal yn cael eu cynllunio ac mae lleoliadau a phopeth dal yn mynd i gael eu penderfynu. Felly oedd e'n galonogol.
"O'n nhw'n ddiolchgar bod fi wedi codi'r pwnc yma a bod nhw'n mynd i ystyried beicio nawr fel rhan o'r cynllun, gobeithio."
Y cwmni sydd tu ôl i'r datblygiad cyfan yw Skyline. Maen nhw eisoes yn rhedeg atyniad o'r fath yn Queenstown a bydd y cynllun yn cael ei gyllido gan arian preifat y cwmni.
Un o'u syniadau yw adeiladu car cebl fydd yn dechrau yn safle hanesyddol Gwaith Copr yr Hafod.
Bydd wedyn yn mynd ar draws Afon Tawe i gopa'r mynydd, lle mae yna olygfeydd godidog dros Fae Abertawe.
Mae'r cynlluniau posib ar restr hir o ddatblygiadau yn Abertawe i geisio rhoi hwb i dwristiaeth, gan gynnwys datblygiad enfawr o ganol y ddinas, ac arena newydd sbon gyda lle i dros 3,000 o bobl yn y bae.
Yn ôl arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart maen nhw'n benderfynol o wella'r ddarpariaeth o weithgareddau ar y mynydd.
"Mae'r bryn eisoes yn cael ei ddefnyddio gan gerddwyr, grwpiau cymunedol a beicwyr mynydd," meddai. "Y bwriad yw i gydweddu'r holl weithgareddau yma yn y cynllun newydd, ac i ychwanegu atyn nhw hefyd."
"Mae e am ofyn, sut allen ni wella'r diwydiant twristiaeth - sydd werth £400m - sydd gyda ni yn y rhanbarth, a beth arall ydyn ni'n gallu rhoi yma?"
Bydd cynrychiolwyr o Skyline Enterprises nawr yn gweithio gyda Chyngor Abertawe ar delerau cytundeb a fydd yn mynd gerbron cabinet y cyngor a bwrdd cyfarwyddwyr Skyline i'w gymeradwyo.
Os yw'r cwmni'n cael caniatâd cynllunio, y gobaith yw y bydd yr atyniad ar agor i'r cyhoedd haf nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2017