Gwaith trydaneiddio'n cau Twnnel Hafren am dair wythnos
- Cyhoeddwyd
Bydd y siwrnai i deithwyr trên rhwng de Cymru a Llundain yn hirach yn ystod y tair wythnos nesaf tra bo Twnnel Hafren ar gau ar gyfer gwaith trydaneiddio.
Bydd teithiau rhwng Abertawe a gorsaf Paddington 40 munud yn hirach na'r arfer wrth i drenau cael eu dargyfeirio trwy Gaerloyw yn lle Bryste.
Mae'r trefniadau mewn grym rhwng dydd Sadwrn a 6 Gorffennaf oherwydd cynllun gwerth £2.8bn i uwchraddio prif reilffordd de Cymru ar gyfer trenau trydanol newydd Great Western Railway.
Bydd yn rhaid i bobl sy'n teithio rhwng de Cymru a Bryste ddefnyddio gwasanaethau bws dros dro o Gasnewydd.
Fydd yna ddim teithiau uniongyrchol rhwng de Cymru a Llundain ddydd Sul gyda'r trenau'n cychwyn ac yn stopio yng ngorsaf Parkway Bryste.
Yn ogystal bydd y gwaith yn effeithio ar deithwyr i Gaerdydd ar gyfer gemau criced Lloegr yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn ac India fis nesaf.
Ac mae problemau tebyg yn wynebu pobl sy'n bwriadu gweld cyngherddau'r canwr Ed Sheeran yn Stadiwm Principality dros bedair noson ddiwedd yr wythnos nesaf.
Mae cynlluniau am "ragor o waith trydaneiddio" yn y dyfodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2016