Agor swyddfa ynni solar gyntaf Prydain yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Swyddfa WeithredolFfynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Swyddfa Weithredol wedi ei lleoli yn Abertawe

Mae'r swyddfa gyntaf ym Mhrydain sy'n creu mwy o ynni solar nag y mae'n ei ddefnyddio wedi ei hagor ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn ôl un o'r asiantaethau sydd wedi ariannu'r adeilad newydd, fe allai'r syniad "chwyldroi'r sector adeiladu" ac mae'r dylunwyr yn dweud y gallai "leihau biliau tanwydd" ac allyriadau carbon "yn sylweddol" mewn swyddfeydd.

Swyddfa Weithredol yw'r enw ar yr adeilad yn y ddinas, ac mae sawl math o dechnoleg yn cael ei ddefnyddio i greu, storio a rhyddhau'r ynni solar.

Yn eu plith mae to crwm gyda chelloedd solar ynddo, a system thermol ar wal sy'n gallu creu gwres a thrydan o'r haul.

Mae yna ystafell ddosbarth sydd yn weithredol yn barod drws nesaf i'r adeilad newydd, ac mae wedi cynhyrchu mwy na 1.5 gwaith yr ynni a ddefnyddiodd yn ei blwyddyn gyntaf.

Bydd y ddau adeilad yn medru rhannu ynni ac mae'n dangos y ffordd y byddai cymuned pŵer solar yn medru bodoli, medd y rhai sydd y tu ôl i'r cynllun.

To crwmFfynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe

Dywedodd Kevin Bygate o SPECIFIC, sef Canolfan Arloesi a Gwybodaeth o dan arweiniad Prifysgol Abertawe ac a ddyluniodd yr adeilad: "Mae swyddfeydd yn defnyddio symiau enfawr o ynni, felly trwy eu gwneud yn gadarnhaol o ran ynni, mae potensial i leihau biliau tanwydd a lleihau eu hallyriadau carbon yn sylweddol.

"Mae troi'n hadeiladau'n orsafoedd pŵer yn gysyniad sy'n gweithio, fel y dengys yr Ystafell Ddosbarth Weithredol."

Ychwanegodd y byddan nhw'n casglu data a gwybodaeth fyddai modd eu defnyddio ar gyfer swyddfeydd eraill yn y dyfodol.

Creu swyddi

Yn ôl Ian Campbell o Innovate UK - un o'r asiantaethau sydd wedi rhoi nawdd tuag at y Swyddfa Weithredol - mae yna botensial mawr mewn adeiladau o'r fath.

"Gallai'r cysyniad chwyldroi'r sector adeiladu yn wirioneddol, ac ar ben hynny newid sut rydym yn cynhyrchu ac yn defnyddio ynni yn gyfan gwbl, felly mae agor y Swyddfa Weithredol yn Abertawe yn gam cyffrous ymlaen."

Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns fydd yn agor yr adeilad ac mae'n dweud bod y manteision ar gyfer adeilad o'r fath nid yn unig yn rhai amgylcheddol ond hefyd yn rhai economaidd am eu bod yn creu swyddi.