Diwrnod cyntaf anodd i Forgannwg yn erbyn Sir Derby

  • Cyhoeddwyd
Tony Palladino, bowliwr Sir Derby yn dathlu cymryd wiced yn erbyn MorgannwgFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tony Palladino'n dathlu cymryd wiced yn erbyn Morgannwg

Fe frwydrodd Morgannwg i gyrraedd 175-7 ar ôl penderfynu batio ar ddiwrnod cynta'r chwarae yn erbyn Sir Derby yn Abertawe.

Fe gollodd y tîm cartref bedwar batiwr i fowlio Tony Palladino.

Roedd hi'n ddiwrnod byr o chwarae oherwydd glaw mân yn y bore.

Llwyddodd Chris Cooke i sgorio 69 heb fod allan, ac mae Andre Salter 26 heb fod allan.