Cerddorion stryd angen trwydded i berfformio

  • Cyhoeddwyd
Cerddor stryd yng Nghaerdydd

Bydd yn rhaid i gerddorion stryd yng Nghaerdydd anfon tapiau clyweliad o'u hunain er mwyn cael yr hawl i berfformio o fis nesaf ymlaen.

Mae Cyngor Caerdydd yn cyflwyno cynllun trwydded er mwyn ceisio gwella safonau'r perfformwyr.

Roedd yna god ymddygiad yn ei le ers mwy na degawd ond mae'r newidiadau wedi eu cyflwyno wedi i gwynion gael eu gwneud gan fusnesau ac ymwelwyr.

Mae cynllun tebyg yn bodoli yn barod mewn dinasoedd eraill fel Rhydychen, Llundain a Belfast.

Croesawu'r datblygiad mae Sam Hickman sy'n canu'r delyn.

"Dwi'n credu bod ychydig bach mwy o reoleiddio yn beth da," meddai. "Dwi wedi bod yn gwneud hyn yng Nghaerdydd ers bron i wyth mlynedd... a dwi wrth fy modd achos mae cymaint o waith arall yn deillio ohono."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sam Hickman yn dweud ei bod yn cael gwaith arall trwy ganu'r delyn ar y stryd

Ychwanegodd ei bod yn falch nad yw wedi ei rheoleiddio'n llwyr am y byddai hyn yn cael effaith negyddol ac yn golygu y byddai nifer o gerddorion eraill yn penderfynu peidio perfformio.

Ond mae Luke Ashley yn "bryderus iawn" ynglŷn â'r cynllun gan ddweud y bydd yn effeithio ar incwm pobl.

Ddim am fod yn llawdrwm

"Dyma'r unig ffordd mae rhai pobl yn gwneud eu harian. Mae hefyd yn mynd i effeithio'r awyrgylch yng nghanol y ddinas."

Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod wedi penderfynu fod angen adolygu'r cod ymddygiad wedi cwynion.

Y casgliad oedd "mabwysiadu'r trefniadau sydd yn eu lle yn llwyddiannus mewn dinasoedd eraill yn y DU...lle mae'n rhaid i gerddorion stryd gael trwydded er mwyn gallu perfformio ar y strydoedd".

Ychwanegodd y llefarydd na fyddai'r cyngor yn llawdrwm ac mai'r nod yw gwella ansawdd y perfformiadau ar gyfer ymwelwyr.