Rhybudd y gallai Airbus adael y DU wedi Brexit

  • Cyhoeddwyd
A380Ffynhonnell y llun, AFP Contributor/Getty Images

Mae cwmni awyrennau Airbus wedi rhybuddio os fydd y DU yn gadael marchnad sengl ac undeb dollau'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, yna fe fyddai'n rhaid ailystyried eu buddsoddiadau yn y DU.

Pwysleisiodd y cwmni nad codi bwganod oedd hyn, ond bod "realiti'n gwawrio".

Mae Airbus yn cyflogi tua 14,000 o bobl ar 25 safle gwahanol ar draws y DU, gan gynnwys oddeutu 6,000 yn eu ffatri adeiladau adenydd ym Mrychdyn, Sir y Fflint.

Yr wythnos ddiwethaf dywedodd llywydd CBI Prydain fod rhannau o'r diwydiant awyrofod yn y DU yn wynebu dyfodol ansicr iawn os na fyddai'r DU yn aros yn yr undeb dollau.

Mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi dweud na fydd y DU yn aros yn yr undeb, ac fe fydd y DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth, 2019.

Disgrifiad,

Dywedodd Pennaeth Coleg Cambria y byddai'n "ddychrynllyd" petai Airbus yn gadael

Mewn asesiad risg Brexit a gyhoeddwyd ddydd Iau, mae Airbus yn dweud os fydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb, fe fyddai'n arwain at drafferthion difrifol ac yn amharu ar gynhyrchu yn y DU.

"Byddai'r sefyllfa yna yn gorfodi Airbus i ailystyried ei fuddsoddiadau yn y DU, a'i ddyfodol tymor hir yn y wlad," medd yr adroddiad.

Ychwanegodd y cwmni, sy'n cynhyrchu adenydd i'w hawyrennau yn y DU, fod y cyfnod trosglwyddo presennol - sy'n dod i ben yn Rhagfyr 2020 - yn rhy fyr iddo wneud newidiadau i'r gadwyn gynhyrchu.

O ganlyniad, bydd yn "peidio ymestyn" eu rhestr o gyflenwyr yn y DU. Ar hyn o bryd mae ganddo mwy na 4,000 o gyflenwyr yn y DU.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Airbus tua 14,000 o weithwyr ar 25 safle yn y DU

Dywedodd prif weithredwr awyrennau masnachol Airbus, Tom Williams, fod gan Brexit oblygiadau difrifol mewn unrhyw sefyllfa i'r diwydiant awyrofod yn y DU, ac yn enwedig i Airbus.

"I ddweud yn blaen, mae sefyllfa heb gytundeb [rhwng y DU a'r UE] yn fygythiad uniongyrchol i ddyfodol Airbus yn y DU.

"Ry'n ni'n ystyried o ddifri a ddylen ni barhau i ddatblygu yma neu chwilio am atebion eraill."

'Pryderus dros ben'

Yn ôl AS Ceidwadol Preseli Penfro, Stephen Crabb, fe ddylai'r rhybudd gan Airbus ddeffro pobl.

Dywedodd: "Mae ffatri enfawr Airbus yng ngogledd Cymru yn un o brif safleoedd gweithgynhyrchu yn y DU. Dylai hwn fod yn ddeffroad. Mae Brexit pragmataidd sy'n gwarchod masnach a swyddi yn hanfodol."

Wrth ymateb i'r datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cyhoeddiad Airbus yn bryderus dros ben.

"Ry'n ni wedi rhybuddio'n gyson na all y DU gymryd y risg enfawr o dorri'n rhydd o'r farchnad sengl a'r undeb dollau, yn enwedig yn achos y sectorau gweithgynhyrchu sydd mor bwysig yng Nghymru i ddarparu swyddi o gyflog a sgiliau uchel.

"Rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU eto i ymrwymo i aros o fewn y Farchnad Sengl a'r Undeb Dollau yn y papur gwyn fyddan nhw'n cyhoeddi maes o law."

'Llanast economaidd'

Mae AC rhanbarthol Plaid Cymru dros Ogledd Cymru, Llyr Gruffydd wedi rhyddhau datganiad yn galw am gytundeb ymadael sydd ddim yn dinistrio diwydiant cynhyrchu Cymru.

Dywedodd Mr Gruffydd: "Dyma'r datganiad fwyaf pendant gan y cyflogwr diwydiannol mwyaf yn y gogledd y bydd yr opsiynau sydd ar gael yn niweidiol i economi Cymru.

"Mae'r opsiynau hynny, sy'n cynnwys gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau, yn ei gwneud hi'n anoddach i Airbus a nifer o gwmnïau eraill yn y gadwyn gyflenwi weithredu.

"Mae Plaid wedi bod yn glir dros y ddwy flynedd ddiwethaf mai'r opsiynau gorau i Gymru a'r economi yw i aros yn y farchnad sengl.

"Dyma'r ffordd orau i osgoi'r math yma o lanast economaidd gallai ddigwydd os yw cwmnïau fel Airbus yn penderfynu peidio â buddsoddi ac ail leoli eu diwydiant."

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad, Andrew RT Davies: "Yn amlwg mae Airbus yn gwmni pwysig i'r DU ac i Gymru - ond mae'n werth cofio mai gweithlu'r DU sy'n gyfrifol am lwyddiant y cwmni.

"Mae siarad mor ddi-hid am symud i China yn gwneud tro gwael â'r gweithwyr, ac fe fyddech chi'n meddwl mai Airbus fyddai'r cwmni cyntaf i ystyried torri costau a safonau - a dyw hynny ddim fel arfer yn gorffen yn dda.

"Ry'n ni'n cyrraedd cyfnod pwysicaf y trafodaethau, ac mae llawer o ormodiaith o gwmpas y lle.

"Ond mae'n bwysig i bawb i sicrhau bod masnach yn parhau mor rhydd a di-rwystr â phosib unwaith y byddwn wedi gadael yr UE - mae hynny mor berthnasol i wneuthurwyr ceir yr Almaen a chynhyrchwyr gwin Ffrainc ag ydyw i'r sector awyrofod yma yn y DU."

'Ymfflamychol'

Mae sylwadau Mr Davies wedi cythruddo rhai o fewn ei blaid, gydag Aelod Seneddol Aberconwy, Guto Bebb yn dweud eu bod yn "ymfflamychol".

Dywedodd Mr Bebb bod Airbus wedi bod yn "gyson yn eu pryderon a bod Llywodraeth y DU yn rhannu eu dyhead am gytundeb cynnar a chynhwysfawr".

Ychwanegodd nad oedd Mr Davies yn siarad dros bob aelod o'r Ceidwadwyr yng Nghymru, ac y dylai dynnu ei sylwadau yn ôl.