Symud cerflun arth roddodd fraw i yrrwr ger Llanwrtyd

  • Cyhoeddwyd
Arth Llanwrtyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r arth wedi bod yn sefyll ger ffordd yr A483 ers dros 15 mlynedd

Mae cerflun o arth sy'n 10 troedfedd o daldra ar fin cael ei symud o ochr ffordd ym Mhowys ar ôl rhoi braw i yrrwr oedd yn pasio.

Mae'r arth, sydd wedi'i wneud allan o bren, yn sefyll y tu allan i faes parcio Melin Wlân Cambria yn Llanwrtyd, ar ochr yr A483, a hynny ers 15 mlynedd.

Ond mae swyddogion diogelwch wedi mynnu fod yr arth yn cael ei symud ar ôl i ddynes yrru ei char fewn i arwydd gan ei bod yn credu y byddai'r arth yn ymosod arni.

Fe wnaeth y ddynes gwyno wrth swyddogion priffyrdd, a bydd y cerflun yn cael ei symud am resymau iechyd a diogelwch.

Disgrifiad o’r llun,

Mae goleuadau traffig dros dro wedi cael eu gosod ar y ffordd ers y digwyddiad ym mis Mai

Mae rhai o drigolion Llanwrtyd yn brwydro'n erbyn y penderfyniad.

Dywedodd y Cynghorydd Peter James fod yr arth yn "fynedfa eiconig i'r dref ers dros 15 mlynedd".

"Dwi ddim yn deall pam fod rhaid i'r arth gael ei symud ar ôl bod yno ers blynyddoedd," meddai.

Ond dywedodd person arall o'r dref oedd yn dymuno aros yn ddienw fod y ddynes wedi gwrthdaro gydag arwydd gan ei bod yn "pryderu y buasai'r arth yn ymosod arni".

Goleuadau traffig dros dro

Mae goleuadau traffig dros dro wedi cael eu gosod ar y ffordd ers y digwyddiad ym mis Mai, ac mae swyddogion priffyrdd yn mynnu y bydd yn rhaid i'r arth fynd.

Roedd y llywodraeth wedi rhybuddio fod rhaid symud yr holl wrthrychau cyn 19 Mehefin neu byddant yn cael eu cadw.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r rhybudd a gafodd ei roi i berchennog y tir bellach wedi dod i ben.

Rydym wedi gofyn i'r Asiant Cefnffyrdd gymryd yr arth a'r gwrthrychau eraill sydd ar y llain ymyl ffordd."

Bydd y gwrthrychau nawr yn cael eu cadw mewn storfa am chwe wythnos tan fod y perchnogion yn eu hawlio.