Gareth Thomas i lansio bil i atal llafarganu homoffobig
- Cyhoeddwyd

Mae Gareth Thomas yn ceisio gwneud llafarganu anweddus a homoffobig mewn gemau pêl-droed yn anghyfreithlon.
Bydd cyn-gapten rygbi Cymru yn lansio bil drafft gyda'r AS Damian Collins - cadeirydd Pwyllgor Diwylliant a Chwaraeon Tŷ'r Cyffredin - er mwyn diwygio'r Ddeddf Troseddau Pêl-droed 1991.
Byddai'r diwygiad yn golygu fod llafarganu neu wneud ystumiau anweddus sy'n cyfeirio at rywioldeb yn anghyfreithlon.
Mae'n fwriad gan Mr Collins i gyflwyno'r bil yn swyddogol yn y Senedd wedi'r lansiad yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Llun.
Chwaraeodd Thomas 100 o weithiau dros Gymru ac fe gyhoeddodd ei fod yn hoyw yn Nhachwedd 2009.
Fe sgoriodd 41 o geisiau i Gymru, ac fe chwaraeodd deirgwaith mewn gemau prawf i'r Llewod cyn ymddeol o'r gêm yn 2011.

Gareth Thomas yw un o'r sêr chwaraeon prin sydd wedi datgan eu bod yn hoyw
Ers dod â'i yrfa fel chwaraewr i ben, mae wedi ymgyrchu i fynd i'r afael â homoffobia o fewn y byd chwaraeon.
Dan y ddeddf bresennol mae'n drosedd i ymgymryd â chanu anweddus o natur hiliol mewn gem bêl-droed.
Mae hynny'n golygu fod canu anweddus ar sail lliw croen, hil, cenedligrwydd neu darddiad ethnig yn anghyfreithlon.
Does dim diffiniad clir o beth yn union sy'n 'anweddus', felly mae achosion yn cael eu hystyried yn unigol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2015
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2018