Pum wiced i Gugten i Forgannwg yn erbyn Northants

  • Cyhoeddwyd
Alex WakelyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Alex Wakely oedd prif sgoriwr Northants yn y batiad cyntaf gyda sgôr o 82.

Timm van der Gugten wnaeth arwain y ffordd gyda phum wiced i Forgannwg wrth i Sir Northampton gyrraedd sgôr o 281 ar y diwrnod cyntaf yng Nghaerdydd.

Llwyddodd y bowliwr i gymryd y wicedi am 45 rhediad wrth i'r ymwelwyr ddymchwel o 223-3 i fod allan yn llwyr am 281 ar ôl dewis batio.

Daeth hynny ar ôl dechrau cryf gan Northants, gyda pherfformiadau da gan Alex Wakely (82), Richard Levi (75) a Ricardo Vasconcelos (56).

Yn eu hymateb nhw fe gyrhaeddodd Morgannwg sgôr o 21-0 erbyn diwedd y diwrnod cyntaf.