Cymeradwyo £10m ar gyfer datblygiadau yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Mae hyd at 9 prosiect yn rhan o'r cynllun gan gynnwys yr arena

Mae cyllid o dros £10m ar gyfer arena dan do a sawl datblygiad arall yn Abertawe wedi cael ei gymeradwyo gan y cyngor.

Bydd yr arian yn cyfrannu at adfywio safle St David's sy'n cynnwys gwesty a'r arena sydd yn dal 3,500 o bobl.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys datblygu swyddfeydd ar gyn safle'r clwb nos Oceana, a thrawsnewid gweithfeydd copr Hafod-Morfa i fod yn ddistyllfa wisgi a chanolfan ymwelwyr.

Yn ôl y Cynghorydd Robert Francis-Davies bwriad y cynllun yw gwneud Abertawe yn le "arbennig i fyw, i weithio ac i ymweld".

"Mae dros naw safle lle bydd pobl yn gallu gweld gwaith adeiladu yn digwydd, a dwi'n credu mai'r pwysicaf fydd yr arena".

'Gwneud dim ddim yn opsiwn'

Cafodd y buddsoddiad ei gymeradwyo gan aelodau'r cabinet mewn cyfarfod cyllideb ar ddydd Mawrth.

Roedd adroddiad a gafodd ei gyflwyno cyn y cyfarfod yn rhoi crynodeb o bob prosiect gan gynnwys eu peryglon posib.

Dywedodd yr adroddiad fod Abertawe, yn enwedig canol y dref, wedi bod yn dirywio yn flynyddol a bod "gwneud dim ddim yn opsiwn".

Yn ôl Mr Stewart bydd yr arena yn cael ei gyllido drwy gyfuniad o fenthyg, grantiau posib ac arian o'r cytundeb dinesig gwerth £1.3bn yn ddibynnol ar gymeradwyaeth gan Lywodraethau Cymru a'r DU.