Andrew RT Davies yn ymddiswyddo fel arweinydd Ceidwadol
- Cyhoeddwyd
Mae Andrew RT Davies, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, wedi ymddiswyddo.
Cafodd ei feirniadu gan rai o fewn y blaid am awgrymu fod cwmnïau megis Airbus yn tanseilio Brexit drwy rybuddio y gallen nhw gau ffatrïoedd os na fydd cytundeb gydag aelodau eraill yr Undeb Ewropeaidd.
Mewn datganiad, dywedodd Mr Davies ei bod hi'n "anrhydedd i wasanaethu yn y rôl hon ers 2011", a'i bod hi'n "wir ddrwg ganddo" ei fod wedi gorfod ymddiswyddo yn dilyn cyfarfod o grŵp y blaid fore Mercher.
Bydd AC Preseli Penfro, Paul Davies nawr yn arwain grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad dros dro.
Beirniadaeth
Mae Andrew RT Davies wedi arwain y grŵp yn y Cynulliad ers 2011.
Roedd yr AC dros ranbarth Canol De Cymru wedi cyhuddo cwmni Airbus o fygwth gadael Prydain oherwydd pryderon y gallai Brexit effeithio ar fasnach.
Fe gafodd ei sylwadau eu beirniadu gan yr AS Ceidwadol, Guto Bebb.
Roedd hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn â theitl Mr Davies fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn hytrach nag arweinydd grŵp y Cynulliad, gan ddweud nad oedd hawl ganddo roi'r argraff hynny.
Dadansoddiad Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig
Ymateb Andrew i bryderon Airbus ynghylch Brexit oedd union asgwrn y gynnen ond mae'r amheuon ynghylch yr arweinydd Cymreig wedi bod yn chwyrlio o gwmpas y blaid ers tro byd.
Does 'na fawr o Gymraeg wedi bod rhwng Andrew a'r Aelodau Seneddol Cymreig ers tro byd ac roedd buddugoliaeth Byron Davies dros Paul Davies yn yr etholiad i ddewis cadeirydd y blaid Gymreig yn arwydd o'r anniddigrwydd mwy eang.
Y broblem i wrthwynebwyr Andrew oedd mai dim ond y blaid yn y Cynulliad oedd a'r gallu i wthio Andrew allan ac roedd y grŵp yn amharod i wneud hynny heb ymgeisydd amlwg yn barod i gymryd ei le.
Mae enwau Nick Ramsay, Suzy Davies, Paul Davies a Darren Millar i gyd yn cael eu crybwyll ond does 'na ddim sicrwydd pwy ohonyn nhw fyddai'n fodlon ysgwyddo rôl sy'n cael ei gweld fel un reit ddiddiolch.
'Cefnogi achos y Ceidwadwyr'
Yn cyhoeddi ei ymddiswyddiad fel arweinydd, dywedodd Mr Davies ei fod eisiau diolch i'r grŵp am eu cefnogaeth, "yn enwedig y staff proffesiynol ac ymroddedig".
"Rwy'n edrych ymlaen at gefnogi pwy bynnag sy'n ennill y gystadleuaeth i fy olynu, ac fe fyddai'n parhau i roi fy holl ymdrech i gefnogi achos y Ceidwadwyr Cymreig yma yng Nghymru ac yn San Steffan," meddai.
"Fel plaid ni fyddwn yn cyflawni unrhyw beth heb waith caled ac ymroddedig ar lawr gwlad ac rydw i eisiau diolch iddyn nhw am yr holl gefnogaeth sydd wedi'i roi i mi yng Nghymru.
Fe wnaeth Mr Davies hefyd ddiolch i'r Prif Weinidog Theresa May am ei chefnogaeth ac i'w deulu, "yn enwedig fy ngwraig Julia sydd wedi fy nghefnogi pob cam o'r ffordd".
Wrth siarad â'r BBC fore Mercher dywedodd swyddog y wasg y grŵp, Vince Bailey, ei fod hefyd yn ymddiswyddo mewn ymateb i'r "digwyddiadau".
Wrth ddiolch iddo am ei waith, dywedodd Ms May bod "Ceidwadwyr Cymru wedi bod yn wrthblaid gref i Lafur ym Mae Caerdydd ac yn llais cadarn i bobl Cymru" dan arweinyddiaeth Mr Davies.
"Rwy'n gwybod y bydd yn parhau i fod yn gynrychiolwr cryf i bobl Canol De Cymru yn y Cynulliad, fel y mae wedi bod ers dros ddegawd," meddai.
"Bydd hefyd yn parhau i leisio diddordebau Cymru wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd a chreu rôl newydd i'r DU ar lwyfan byd eang."
'Gonest a theg'
Yn ymateb i'w ymddiswyddiad dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Er ein gwahaniaethau gwleidyddol amlwg, roedd Andrew wastad yn gwmni da, ac ni wnaeth dorri'r materion hynny roeddwn yn rhannu gydag ef fel arweinydd yr wrthblaid.
"Mae hynny'n arwydd o wleidydd gonest a theg.
"Mae Andrew wedi gwneud ei farc ar wleidyddiaeth Cymru, ac mae ei bersonoliaeth hwyliog wastad wedi bod yn chwa o awyr iach yn ystod trafodaethau'r Cynulliad."
Ddydd Mercher cafodd Paul Davies, oedd yn ddirprwy arweinydd i Andrew RT Davies, ei ddewis gan grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad fel eu harweinydd newydd dros dro.
Dywedodd AC Preseli Penfro ei fod am dalu teyrnged i gyfnod Mr Davies fel arweinydd, a'i fod wedi gwneud "cyfraniad sylweddol i wleidyddiaeth Cymru".
Yn ei saith mlynedd yn arwain y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, fe aeth Mr Davies yn erbyn y blaid yn ehangach ar sawl achlysur.
Yn refferendwm Brexit yn 2016 roedd o blaid gadael, er bod y prif weinidog ar y pryd, David Cameron, wedi ymgyrchu dros aros yn yr UE.
Roedd rhai aelodau'r blaid yn feirniadol o Mr Davies am groesawu AC UKIP ar y pryd, Mark Reckless - cyn-AS Ceidwadol oedd wedi troi at UKIP yn 2014 - i grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad.
'Record gadarn'
Bu'n rhaid i Mr Davies hefyd wadu ffrae gydag Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns dros bwy ddylai gynrychioli'r Ceidwadwyr Cymreig mewn dadleuon teledu cyn etholiad cyffredinol 2017.
Wedi i'r blaid golli tair sedd yn yr etholiad fe wnaeth Mr Davies alw am eglurder dros bwy ddylai gael teitl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
Yn ymateb i'w ymddiswyddiad dywedodd Mr Cairns bod Mr Davies "wedi chwarae rôl allweddol wrth ddal Llywodraeth Lafur Cymru i gyfrif yn y Cynulliad ers 2011".
"Fel yr arweinydd yn y Cynulliad mae ganddo record gadarn o amlygu sut y gallai Ceidwadwyr Cymru greu economi gryfach i Gymru."
Ychwanegodd cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, Byron Davies fod Andrew RT Davies wedi "bod yn effeithiol wrth herio Llafur Cymru a dwi'n siŵr y bydd ei olynydd yn gwneud yr un peth".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2018