Amy Wadge ac Ed Sheeran yn wynebu achos llys $100m

  • Cyhoeddwyd
Amy Wadge ac Ed Sheeran
Disgrifiad o’r llun,

Amy Wadge ac Ed Sheeran yn derbyn gwobr Grammy

Mae'r cyfansoddwr a cherddor Amy Wadge wedi ei henwi mewn achos llys yn erbyn Ed Sheeran sy'n honni iddo gopïo rhannau o gân Marvin Gaye.

Mae Wadge yn wreiddiol o Fryste ond bellach yn byw ym Mhontypridd gyda'i theulu ac wedi cael gyrfa lwyddiannus fel cantores yng Nghymru.

Ms Wadge wnaeth gyd-ysgrifennu Thinking Out Loud gydag Ed Sheeran.

Mae'r achos yn honni bod Wadge, Sheeran, Sony/ATV ac Atlantic wedi copïo sawl elfen o'r gân Let's Get It On, gan Marvin Gaye.

Cwmni Structured Asset Sales sydd wedi dwyn yr achos am $100m, gan ddweud bod elfennau'n cynnwys "alaw, rhythm a harmoni" y gân wedi eu dyblygu.

Mae Wadge wedi ennill Grammy am ei rhan yn cyfansoddi'r gân, profiad y gwnaeth hi ei drafod gyda Cymru Fyw.

Mae BBC Cymru wedi cysylltu gyda chynrychiolwyr Amy Wadge am sylw.