Llywodraeth yn gwrthod rhyddhau llythyr am doriadau budd-daliadau

Mae prif weinidog Cymru wedi gwrthod cefnogi toriadau Llywodraeth y DU a gafodd eu cyhoeddi gan y Canghellor yr wythnos ddiwethaf
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud na fyddan nhw'n cyhoeddi llythyr a gafodd ei anfon at y prif weinidog gan Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU am effaith y cyhoeddiadau diweddar ar Gymru, ddiwrnod ar ôl cadarnhau eu bod wedi derbyn y llythyr.
Fe wnaeth Eluned Morgan ysgrifennu at Liz Kendall ar 11 Mawrth yn holi am asesiad penodol ar Gymru, ond nid oes cadarnhad a oes y fath waith wedi cael ei wneud.
Ddydd Gwener, fe wrthododd y prif weinidog gefnogi'r newidiadau tan ei bod yn cael mwy o wybodaeth.
Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth y canghellor gadarnhau nifer o newidiadau i fudd-daliadau gan gynnwys prawf cymhwysedd llymach ar gyfer taliadau annibyniaeth personol (PIP) - y prif fudd-dal anabledd sy'n cael ei hawlio ar hyn o bryd.
Fe ysgrifennodd Plaid Cymru at y prif weinidog ddydd Sul, gyda Rhun ap Iorwerth yn mynnu bod ymateb Kendall yn cael ei "gyhoeddi'n llawn, heb oedi".
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Mae Morgan eisoes wedi dweud y bydd y newidiadau yn cael mwy o effaith ar Gymru am fod lefel cymharol uchel o bobl yn hawlio budd-daliadau.
Yn ogystal â chyflwyno prawf llymach o ran taliadau annibyniaeth personol, cadarnhaodd y canghellor y bydd credyd cynhwysol cysylltiedig ag iechyd ar gyfer hawlwyr newydd, a oedd eisoes i'w haneru o fis Ebrill 2026 o dan becyn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, bellach yn cael ei rewi ar lefel is newydd o £50 yr wythnos tan 2030.
Bydd taliadau cysylltiedig ag iechyd hefyd yn cael eu rhewi ar gyfer hawlwyr presennol.
Fe wnaeth asesiad gan yr adran Gwaith a Phensiynau ganfod y bydd 3.2m o deuluoedd ar draws Lloegr a Chymru ar eu colled o ganlyniad i'r newidiadau, gyda 250,000 yn fwy o bobl yn cael eu gwthio i dlodi.

Wrth annerch ASau, dywedodd Ms Reeves "nad yw'n iawn diystyru cenhedlaeth gyfan sydd allan o waith ac sy'n camddefnyddio PIPs"
Mae'r sefyllfa wedi troi yn broblem wleidyddol yng Nghymru, am fod lefel cymharol uchel o bobl y wlad yn hawlio budd-daliadau, ac ar ôl i Morgan ddweud bythefnos yn ôl ei bod "yn bersonol wedi siarad â rhif deg" am ei phryderon.
Cafodd copi o lythyr Morgan i Kendall, ar 11 Mawrth, ei rannu gyda'r cyfryngau.
Ond mewn sesiwn ym mhwyllgor y senedd ddydd Gwener, fe wnaeth y prif weinidog gadarnhau nad oedd wedi siarad â'r prif weinidog Keir Starmer ac nad oedd yn medru cofio enwau'r rhai y bu'n siarad â nhw.
Yn yr un sesiwn, fe wnaeth Morgan ddweud ei bod yn gwrthod cefnogi'r newidiadau nes ei bod yn cael mwy o wybodaeth.
Mae gwleidyddion eraill o'r blaid Lafur wedi beirniadu'r cynlluniau.
Dywedodd yr aelod sy'n cynrychioli Blaenau Gwent yn y Senedd, Alun Davies fod rhai o'i etholaeth "wedi dychryn".
Fe wnaeth AS Llafur Sir Drefaldwyn a Glyndŵr, Steve Witherden, ailadrodd yr alwad am dreth cyfoeth, gan ddweud mewn neges ar X y bydd "bywydau yn cael eu byrhau" o ganlyniad i'r newidiadau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai penderfyniad y person a yrrodd y llythyr yw a ddylid ei ryddhau.
Mae BBC Cymru wedi holi'r adran Gwaith a Phensiynau os ydyn nhw'n bwriadu gwneud hynny.