Bysiau yn dychwelyd o dan reolaeth gyhoeddus

Bydd yn rhaid i gwmnïau bysiau gystadlu am yr hawl i ddarparu gwasanaethau yn y dyfodolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i gwmnïau bysiau gystadlu am yr hawl i ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na rybudd bod angen gwario arian ychwanegol sylweddol os am greu system fysiau yng Nghymru sy'n debyg i Lundain.

Mae cyfraith sy'n rhoi bysiau yn ôl o dan reolaeth gyhoeddus wedi cael ei chyhoeddi ddydd Llun.

Yn dilyn blynyddoedd o doriadau a gostyngiad yn nifer y teithwyr, mae Llafur eisiau i gwmnïau bysiau gystadlu am gytundebau yn lle gweithredu ar ben eu hunain.

Cafodd cynllun ar gyfer masnachfreintiau (franchises) ei gyhoeddi chwe blynedd yn ôl, ond fe allai gymryd pum mlynedd arall i'w gyflawni.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates fod y ddeddfwriaeth yn golygu "ein bod yn cymryd rheolaeth yn ôl dros sut mae llwybrau ac amserlenni yn gweithredu".

Ers canol y 1980au, mae cwmnïau preifat wedi gallu rhedeg bysiau lle dymunan nhw, cyn belled â'u bod wedi'u cofrestru ac yn ddiogel.

Mae beirniaid yn dweud fod hynny wedi arwain at ddileu gwasanaethau sydd ddim yn gwneud elw.

Bydd manylion y drefn newydd yn cael eu datgelu i'r Senedd yn ddiweddarach.

Ond mae'r llywodraeth wedi dweud yn barod eu bod am i Drafnidiaeth Cymru ddewis llwybrau, yr amserlenni a'r prisiau ar y cyd gyda chynghorau lleol.

Byddai cwmnïau wedyn yn gwneud cais i ddarparu'r gwasanaeth am ffi. Fel yn Llundain, gallai bysiau hefyd gael eu brandio yr un fath.

A blue bus arrives at a bus stop
Disgrifiad o’r llun,

Abertawe a'r de-orllewin fydd y rhanbarth cyntaf i ddechrau'r drefn newydd o ddarparu bysiau

Mae gweinidogion wedi addo system drafnidiaeth "symlach ac yn hawdd i'w deall", gan ddisodli system lle mae cwmnïau'n gosod eu hamserlenni eu hunain ac yn defnyddio tocynnau gwahanol.

Ond dywedodd y llywodraeth y llynedd y byddai'r cytundebau masnachfraint yn golygu bod Trafnidiaeth Cymru "yn agored i unrhyw ostyngiad yn y refeniw gwerthiant tocynnau, dolen allanol" pe bai nifer y teithwyr yn isel.

Fe fyddai hynny'n "golygu bod angen cyllid ychwanegol neu benderfyniadau anodd ynghylch lleihau gwasanaethau".

"Mae'n iawn bod y penderfyniadau hyn, lle mae angen, yn cael eu gwneud gan ystyried lles y cyhoedd," meddai llefarydd.

Dywedodd Barclay Davies, o Bus Users UK: "Gall masnachfreintio fod yn wych i deithwyr, ond nid yw'n rhad.

"Bydd angen symiau sylweddol o arian."

Mae gwasanaethau hanfodol eisoes yn cael cymhorthdal ​​gan y trethdalwr, ond mae nifer teithiau bysiau, cerbydau a theithwyr wedi gostwng yn ddiweddar.

Teithiodd pobl 61 miliwn o weithiau ar fysiau lleol yn 2022/23, dolen allanol, o gymharu â 91.7 miliwn yn y flwyddyn lawn olaf cyn y pandemig.

'Tagfeydd traffig'

Mae'r diwydiant bysiau yn dweud eu bod eisiau cytundebau sydd ag elfen masnachol iddyn nhw.

Dywedodd Aaron Hill, cyfarwyddwr y grŵp lobïo CPT Cymru nad ydy rhoi'r bysiau dan ofal awdurdod newydd yn ddigon i wella'r gwasanaeth ar ei ben ei hun.

"Bydd teithwyr ond yn gweld bysiau gwell os yw ymrwymiadau'n cael eu cefnogi gan gyllid digonol, a chamau i gyflymu bysiau drwy eu tynnu allan o'r tagfeydd traffig," meddai.

Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, Peter Fox, y bydd yna risgiau "os na chaiff ei weithredu'n iawn a bydd yn bwll arall o arian i'r trethdalwr".

Mae'r llywodraeth yn bwriadu rhannu Cymru yn rhanbarthau, gyda phob un yn cyflwyno eu masnachfreintiau eu hunain dros y pum mlynedd nesaf.

Byddai'r cytundebau cyntaf yn dechrau yn 2027 yn ne-orllewin Cymru. Canolbarth Cymru fyddai'r rhanbarth olaf, yn 2030.

Girl in lilac jumper standing in a room
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Phoebe daith o ugain munud i'r coleg pob dydd - hanner awr os ydy'r traffig yn drwm

Mae Phoebe Wyn Williams yn teithio ar y bws bob dydd i Goleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli.

"Dwi'n meddwl bod o'n ofnadwy o bwysig achos mae'n helpu ni gymdeithasu a mynd o un lle i'r llall," meddai.

"Dwi di bwcio test dreifio a does 'na ddim un ar gael rwan tan blwyddyn nesa felly dwi'n gweld bysys yn ofnadwy o bwysig achos mae'n helpu ni i fynd un lle i'r llall."

Gyda'i bas bws mae Noa Griffiths yn cael teithio am ddim o'i gartref ym Morthmadog i'r coleg.

"Anaml iawn mae'r bysys yn hwyr, mae'r bus pass wedi gweithio i fi bob tro yn bersonol," meddai.

"Fel arfer mae popeth yn gret a dwi ddim yn cael unrhyw broblemau efo nhw'n bersonol."

Dywed Enlli Jones, myfyrwraig arall: "Dwi'n gorfod dal bws bob bore ac yn ôl hefyd so dwi'n gorfod dal nhw drwy'r adeg rili achos sgen i ddim ffordd arall o ddod i'r coleg - felly dyna'r main way i fi fynd yna.

"Mae o'n iawn ond weithiau mae'r ap dwi'n defnyddio i cael y bus pass yn chwarae fyny, dydi o ddim yn connectio i'r we ac mae'n deud bod o'n invalid so dwi wedi gorfod talu tua £2.10 i fan hyn o Gricieth."

'Hynod uchelgeisiol'

Ddydd Sul, dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates wrth raglen BBC Politics Wales fod y ddeddfwriaeth yn golygu "ein bod yn cymryd rheolaeth yn ôl dros sut mae llwybrau ac amserlenni yn gweithredu".

"Nid yw hyn erioed wedi'i wneud ar raddfa genedlaethol o'r blaen, felly mae'n hynod uchelgeisiol," meddai.

"Ond rwy'n meddwl ei fod yn mynd i fod yn un o'r darnau pwysicaf o ddeddfwriaeth yr ydym erioed wedi ei wneud - i roi opsiynau gwell i'r genedl gyfan."

Mae Plaid Cymru yn cefnogi'r cynllun, ond dywedodd y byddai'n edrych ar y ddeddfwriaeth i wneud yn siŵr ei bod yn darparu gwasanaeth gwell a rhatach.

Dywedodd llefarydd trafnidiaeth y blaid, Peredur Owen Griffiths: "Mae masnachfreinio bysiau yn gam sy'n hanfodol i ddyfodol gwasanaethau bws cynaliadwy, fforddiadwy a dibynadwy ar gyfer y dyfodol - sy'n gwneud oedi Llywodraeth Lafur yn rhwystredig."