'Angen gwneud mwy i addysgu pobl ddi-Gymraeg am ystyr enwau lleoedd'

Mi gafodd Josef Roberts fagwraeth uniaith Saesneg yn Hen Golwyn, ond roedd o'n benderfynol o ddysgu'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwneud mwy i addysgu pobl ddi-Gymraeg am darddiad ac ystyr enwau lleoedd yng Nghymru er mwyn eu diogelu, medd un dylanwadwr.
Wedi dysgu Cymraeg, mae Josef Roberts o Hen Golwyn yng Nghonwy bellach yn treulio'i amser yn creu cynnwys digidol ar Facebook a TikTok dan enw 'Tirlun' sy'n nodi ystyr enwau trefi a phentrefi drwy Gymru.
Gyda miloedd bellach wedi gwylio'r cynnwys, mae'n mynnu bod addysgu pobl ddi-Gymraeg am ystyr enwau yn holl bwysig er mwyn iddyn nhw eu defnyddio ac i beidio â'u newid ar lafar.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mi fydd gwaith ymchwil yn cael ei gyhoeddi'n fuan ar beth yw'r ffordd orau i ddiogelu enwau lleoedd a chymunedau.

Mae miloedd o bobl wedi gwylio cynnwys digidol Josef Roberts ar Facebook a TikTok
Cafodd Josef Roberts, 32, ei fagu yn uniaith Saesneg yn Hen Golwyn - a dim ond ei daid oedd â rywfaint o Gymraeg.
Ond ar ôl treulio pum mlynedd yn byw yn China gan weithio ym maes marchnata roedd awydd dod nôl i ogledd Cymru ac roedd yn benderfynol o ddysgu'r Gymraeg.
Gan gymryd diddordeb mewn tarddiad a hanes enwau lleoedd fel modd o ddysgu'r iaith, mae o bellach wedi rhoi'r gorau i'w swydd ac yn blogio'n llawn amser ar TikTok a Facebook gan geisio lledaenu ymwybyddiaeth tarddiad enwau.
"Dwi 'di sylwi bod 'na lawer o bobl sy'n byw yma yng Nghymru sydd ddim yn deall enwau'r lleoedd o'u cwmpas," meddai.
"Roeddwn i'n meddwl felly os dwi jest yn egluro, fe allai gysylltu'r iaith â diwylliant Cymru a phobl Cymru."

O Gonwy, i Sir y Fflint a draw i Fôn mae Josef wrthi'n crwydro'r gogledd yn olrhain tarddiad enwau pentrefi a threfi.
"Dwi'n ceisio drwy fy fideos byr i newid pethau.
"Dwi'n credu os bydd pobl yn deall ystyr yr enwau bydd pobl yn gwerthfawrogi nhw ac os ti'n cysylltu pobl â'r iaith fel hyn, dwi'n gobeithio y bydd o'n annog pobl eraill."
Gyda sawl corff cyhoeddus fel Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri bellach wedi cyhoeddi mai enw uniaith Cymraeg fydd ar eu sefydliadau, mae Josef yn dweud mai normaleiddio'r iaith sy'n bwysig.
'Gwarchod a hyrwyddo'
Gan ddweud bod angen mwy o bwyslais ar ddysgu pobl ddi-Gymraeg, mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod enwau felly yn "rhan o hanes cyfoethog ein tirwedd a'n cymunedau".
"Rydyn ni'n gweithio gydag ystod o bartneriaid - o brosiectau mapio i awdurdodau lleol i barciau cenedlaethol - i gofnodi, diogelu a hyrwyddo'r enwau hyn, gan gefnogi eu defnydd mewn lleoliadau eiconig fel parciau cenedlaethol byd-enwog Eryri a Bannau Brycheiniog.
"Bydd ymchwil yn cael ei gyhoeddi'n fuan a fydd yn gwella ein dealltwriaeth o sut mae enwau lleoedd yn cael eu defnyddio ac yn newid yn ein cymunedau.
"Dyma fydd sail unrhyw weithredu pellach i warchod a hyrwyddo ein cyfoeth o enwau Cymraeg."
Y bwriad gan Josef rŵan yw parhau â'r fenter gan ddweud ei fod am ymweld â phob rhan o Gymru i greu cynnwys tebyg.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
- Cyhoeddwyd3 Ionawr
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2021