Yn ôl i Midffîld: Y cast yn hel atgofion am y gyfres eiconig

Cast C'mon Midffîld gyda Dylan Ebenezer oedd yn llywio'r drafodaeth
- Cyhoeddwyd
Ym 1982 y cafodd cymeriadau Arthur Picton, Wali Tomos, Tecwyn Parry, Sandra Picton a George Hughes eu cyflwyno i'r byd ar BBC Radio Cymru.
Erbyn 1988 roedd y rhaglen am dîm pêl-droed Bryncoch wedi'i haddasu ar gyfer y teledu, a daeth C'mon Midffîld yn un o raglenni mwyaf eiconig S4C.
Mewn noson arbennig yng nghlwb pêl-droed Caernarfon, daeth rhai o'r cast yn ôl at ei gilydd ar gyfer sesiwn o hel atgofion.
Dylan Ebenezer oedd yn llywio'r drafodaeth rhwng John Pierce Jones, Bryn Fôn, Sian Wheldon a Llion Williams, mewn noson oedd wedi'i threfnu ar y cyd rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archif Ddarlledu Cymru, S4C a BBC Radio Cymru.
Mae modd gwrando ar gynnwys y noson ar bodlediad arbennig ar BBC Sounds - Yn ôl i Midffîld. Dyma ambell i uchafbwynt o'r sgwrsio.
'Yn ôl i Midffîld' ar BBC Sounds
Cast gwreiddiol C'mon Midffîld yn hel atgofion gyda Dylan Ebenezer
Y cyd-weithio cyntaf

Llun cynnar o C'mon Midffîld pan oedd y gyfres ar y radio yn unig, Phylip Hughes (dde) oedd yn chwarae rhan Tecs bryd hynny
John Pierce Jones, a oedd yn chwarae rhan Mr Arthur Picton, oedd y cyntaf i ateb y cwestiwn gan Dylan Ebenezer ynglŷn â'r tro cyntaf i'r cast gydweithio gyda'i gilydd.
"Cyfres radio oedd hi yn gyntaf. Dechra yn fan'no a cyn hynny wedi cael fy rhoi ar ben ffordd gan Alun Ffred a Mei Jones."
Roedd 'na beilot wedi'i ddarlledu ar Radio Cymru yn 1982 a'r gyfres radio yn 1986, ac yn ôl John Pierce Jones, roedd y peilot yn "ofnadwy."
Doedd Bryn Fôn ddim yn y gyfres radio, ac fe gyfaddefodd nad oedd erioed wedi clywed C'mon Midffîld ar y radio a bod dau actor arall wedi chwarae cymeriad Tecs bryd hynny.
"Roedd 'na ddau Tecs wedi bod ar y radio a doeddwn i ddim yr un o'r rheiny. Pan ddoth hi adeg y teledu roedd un rhy hen a llall rhy hyll, felly ges i'r job a bod yn Tecs. 'Na i ddim deud pa un oedd yn hen a pa un oedd yn hyll!" meddai.

Doedd Bryn Fôn ddim yn y gyfres radio wreiddiol o C'mon Midffîld
Dywedodd Llion Williams, a oedd yn chwarae rhan George Hughes, fod y gyfres wedi datblygu tipyn ers y dyddiau radio erbyn iddi gyrraedd y teledu.
"Be' oedd yn wych oedd ein bod wedi cael cyfle i 'neud o ar y radio i ddechrau a be' oedd yn anhygoel oedd bod pobl wedi dechrau gwrando arno, ac roedd 'na dimau pêl-droed oedd yn mynd i gemau ar bnawn dydd Sadwrn ar y bws yn ei roi o 'mlaen.
"Roedd rhywun yn gwybod, erbyn pan oedden ni ar y teledu wedyn, fod 'na gyfrifoldeb mawr i drio 'neud llwyddiant ohono fo."
Mae Sian Wheldon, oedd yn actio'r cymeriad Sandra, yn cofio recordio'r gyfres radio.
"Dwi'n cofio recordio yn stiwdios Bryn Meirion ym Mangor ar ddydd Sadyrnau a'r Sul.
"Elwyn Jones, y diweddar erbyn hyn, oedd enw'r cynhyrchydd.
"Roedd y rhan fwyaf o'r golygfeydd yn cael eu recordio yn y stiwdio, ond efo rhai eraill, yn enwedig y rhai ar y cae, er mwyn creu awyrgylch realistig, roedden ni yn cael ein pacio i lawr i gae tîm pêl-droed dinas Bangor, yr enwog, Farrar Road," cofiai.
Ydi'r actorion yn debyg i'w cymeriadau?

Fe wnaeth Mr Picton wneud ymddangosiad ar ddiwedd y noson i dynnu lluniau gyda'r ffans
Ble mae Mr Picton yn dechrau a John yn gorffen? Dyna'r cwestiwn ofynnodd Dylan Ebenezer wrth John Pierce Jones.
Cafodd y gynulleidfa glywed John yn sôn am Arthur Picton a'r person oedd ganddo yn ei feddwl wrth bortreadu'r cymeriad enwog.
"Tydw i ddim byd tebyg i Arthur Picton," meddai gyda'i dafod yn ei foch.
"Ro'n i fel pob plentyn yn y 1950au oedd wedi'u magu mewn pentref lle oedd pêl-droed fel crefydd.
"Fe ges i 'ngeni yn Niwbwrch, ac roedd 'na dîm pêl-droed yno. Plismon lleol oedd yn rheoli'r clwb ac roedden nhw'n cyfarfod yn yr Institiwt pob nos Fawrth, ac roedden nhw'n trafod ac yn dadlau pwy oedd am fod yn y tîm dydd Sadwrn tan un y bore.
"Fe fyddai'r tîm yn cael ei osod yn ffenest y siop pob bore Mercher, yr union dîm oedd y rheolwr wedi'i enwi yn y lle cyntaf.
"Roedd pob dim yn dod yn naturiol i mi, y gwaeddi a'r rhegi gan fy mod wedi fy magu yn ei sŵn o.
"Pan ges i'r sgript, ro'n i bron fel fy mod i'n nabod y cymeriad yn barod," meddai.

Roedd clwb pêl-droed Caernarfon dan ei sang ar gyfer y noson arbennig
Roedd Bryn Fôn yn dod yn newydd i'r gyfres deledu, wrth gwrs, felly pwy ddylanwadodd arno wrth chwarae rhan Tecwyn Parry?
"Ar ôl yr wythnosau cyntaf o ymarfer, do'n i ddim yn teimlo fy mod wedi cael gafael ar y cymeriad.
"Ro'n i wedi deud wrth Mei nad o'n i'n mynd i nunlle. Peth nesaf dyma Ffred (Alun Ffred) yn dod a dechrau sôn am y darn nesaf oedden ni yn 'neud.
"Roedd o wedi mynd i swnio fel ei ddyddiau fel athro, felly dyma Mei yn rhoi pwniad i mi a deud 'dyma fo yli, dyma fo Tecs yn fan 'na'.
"Be' 'nes i wedyn oedd trio pigo fyny ar y nodyn yna oedd gan Ffred," meddai.
Bryncoch United yn bodoli ymhob man!

Roedd y diweddar Mei Jones yn cael ei gofio'n annwyl iawn yn ystod y noson
Mae modd cymharu tîm Bryncoch â'r digwyddiadau digri ar ac oddi ar y cae gyda sawl un o glybiau llawr gwlad Cymru.
Roedd Bryn Fôn yn trafod sut fod chwarae i glybiau ar Ynys Môn yn ystod ei gyfnod yn y coleg wedi gwneud iddo sylweddoli'r tebygrwydd rhwng y clybiau hyn a Bryncoch.
Roedd awdur y gyfres, y diweddar Mei Jones hefyd yn dipyn o bêl-droediwr ac wedi chwarae i sawl clwb gwahanol ar yr ynys. Roedd ei brofiadau yntau wedi dylanwadu ar sawl stori wnaeth ymddangos ar C'mon Midffîld.
"Dwi'n cofio chwarae i Landegfan, ac roedd o'n union fel Bryncoch," meddai Bryn.
"Mae 'na gymeriadau fel Wali, Tecs a ballu ymhob clwb does. Mae gynnoch chi rywun yn rhedeg y lein ac yn gwneud pob dim, y sponge man ac yn gneud y tê; maen nhw yna tydyn, rydan ni wedi tyfu fyny hefo nhw.
"Dwi'n cofio chwarae yn y Penygroes and District a gorfod ll'nau teil off y cae cyn chwarae.
"Mae'r committee hefyd yn crisialu pob dim am y math yna o dîm a'r math yna o bêl-droed," meddai.
Y dywediadau

Roedd Sian Wheldon yn cofio'r ffans yn dod ati i ddynwared sawl llinell o'r gyfres.
Roedd cymaint o sefyllfaoedd ble roedd pobl yn mynd at y cast ar y stryd ac yn dyfynnu eu hoff linellau.
"Rhai weithiau yn dyfynnu hanner sgript," cofiai Sian.
Mae ganddi atgofion melys iawn o bobl yn dod ati ar y stryd pan oedd Midffîld yn ei anterth, ond un sefyllfa sy'n aros yn y cof iddi oedd pan ddaeth mam i ddyn oedd yn dioddef o iselder ati ym Mhwllheli.
Roedd y teulu wedi bod mewn penbleth am gyflwr meddyliol eu mab ers misoedd, ond pan oedd yn gwylio C'mon Midffîld, roedd o'n chwerthin ac yn sydyn fe drodd ei ysbryd, diolch i'r gyfres.
Roedd y fam yn pwysleisio sut oedd y gyfres wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i'w mab ac i'r teulu.
"Fe arhosodd y foment yna gyda mi gyd heddiw," medd Sian.
Aeth yn ei blaen i sôn am sefyllfaoedd digri eraill yr oedd digwydd iddi gyda ffans o'r gyfres.
"Un o'n i'n cael yn aml oedd pobl yn gweiddi 'Hei Sand, wyt ti'n dod am dro ar y sand?'
"Ar ôl gorffen ffilmio weithiau roedden ni'n mynd am ryw lymaid bach i Gaernarfon.
"Roedd 'na lot o hogiau ifanc yno yn meddwl eu bod nhw'n George Hughes; roedden nhw eisiau i mi datŵio eu breichiau nhw efo'r dywediad yna.
"Roedd 'na gymaint o sefyllfaoedd mor ddoniol ac yn peri rhywun i chwerthin dro ar ôl tro," meddai.
Pwy oedd George Hughes?

Pan yn chwilio am fachyn i gymeriad George, roedd un person wedi dylanwadu'n fawr ar Llion Williams.
"Bangor lad oedd George. Roedd 'na lot o hogiau canol dre a Maes Geirchen yn yr un dosbarth â mi. Dyna oedd yn grêt am fyw ym Mangor - roedd 'na fachgen o'r enw Gerald Lane o Gae Llepa.
"Ma' Gerald yn gwybod; mae o'n byw yn Hen Golwyn 'wan ac yn gwybod fod George wedi ei seilio arno.
"Roedd y sgript wych na'n dod gan Mei a Ffred, roedden i'n cael wythnos o ymarfer fel arfer.
"Y diwrnod cyn ffilmio roedd Mei rhan amlaf yn deud, 'trïa fo o flaen y technegwyr, os gei di laff gei di gadw fo fewn'.
"Dyna sut ddatblygodd George yn rhyw fath o athronydd. Roedd o'r math yna o ryddid oedd rhywun yn ei gael i fynd â fo i ba gyfeiriad oeddet ti eisiau."
Y ddafad ddof

Bryn Fôn oedd yn berchen ar ddafad gafodd ei defnyddio yn y bennod Meibion Bryncoch
Mewn pennod o'r enw Meibion Bryncoch roedd Wali, Mr Picton, George a Tecs wedi cael eu cyhuddo o ddwyn defaid.
Fe eglurodd Llion: "Roedd o yn y cyfnod wrth gwrs ble oedd Mei, Dyfed Thomas, Bryn ac Anna, gwraig Bryn, wedi cael eu harestio ar gam, ac roedd Mei - fel oedd o - eisiau talu'n ôl i'r heddlu am hyn.
"Dim llosgi tai haf oedden ni wedi cael ein cyhuddo ohono fo ond dwyn dafad. Roedden ni wedi taro rhyw ddafad yn hwyr yn y nos ac roedd hi ym mŵt y car."
Dyma Bryn Fôn yn camu i mewn i ddweud hanes y ddafad oedd yn cael ei defnyddio yn y bennod.
"Fy nafad i oedd hi. Nid oen llwath ond rhyw ddafad oedd eisiau sylw drwy'r amser.
"Daeth Ffred i ddeud eu bod nhw'n chwilio am ddafad ar gyfer y bennod a gofyn os oedd rhywun yn gwybod am un.
"Nes i ofyn os oedd o eisiau trio'r ddafad yma oedd gen i adra.
"Yn yr olygfa mae'r ddafad yn y cefn rhwng Wali a George. Roedd hi'n eistedd yno drwy'r dydd rhwng y ddau. Roedd hi'n anhygoel," meddai.

Fe berfformiodd Bryn Fôn sawl cân ar gyfer y gynulleidfa ar ddiwedd y noson
Gallwch wrando ar y sgyrsiau hyn a mwy o'r drafodaeth yn y rhifyn arbennig yma o bodlediad Yn ôl i Midffild sydd ar gael nawr ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2023