Rhybudd o stormydd mellt a tharanau yn y de

  • Cyhoeddwyd
Mellt a tharanau

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn o stormydd mellt a tharanau ar gyfer y de ddydd Sul.

Er bod disgwyl i'r haul barhau i wenu dros lawer o'r wlad, mae posiblrwydd o law trwm, cesair neu genllysg a mellt mewn ardaloedd deheuol.

Dyma'r tro cyntaf i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd am stormydd mellt a tharanau ers iddo gael ei sefydlu 164 o flynyddoedd yn ôl.

Cafodd ei gyflwyno fel rhybudd fis diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd

Mae'r rhybudd, sy'n parhau tan 22:00 nos Sul, yn dweud y gallai glaw sydyn arwain at amodau gyrru peryglus a chau ffyrdd.

Mae yna berygl o lifogydd a difrod i adeiladau oherwydd glaw trwm, gwyntoedd cryfion a chesair.

Fe allai'r mellt hefyd arwain at doriadau i'r cyflenwad trydan.