'Sgandal' gwaed: Galw ar ddioddefwyr i roi tystiolaeth

  • Cyhoeddwyd
Hepatitis C virusFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sgandal wedi cael ei galw yn un o'r rhai gwaethaf yn hanes y GIG

Mae yna alwad ar y rhai a ddioddefodd yn sgil "sgandal gwaed" y Gwasanaeth Iechyd yn y 70au a'r 80au i ddod i roi tystiolaeth wrth i ymchwiliad i'r hyn a ddigwyddodd ddechrau ddydd Llun.

Cafodd miloedd o bobl eu heintio â HIV a hepatitis C wedi iddynt gael gwaed heintiedig yn ystod trallwysiad gwaed a thriniaethau eraill.

Wedi 30 mlynedd o alw am ymchwiliad bydd y Senedd yn cyhoeddi ffurf a phwrpas yr ymchwiliad cyhoeddus.

Dywedodd Julie Morgan AC bod yr ymgyrch wedi bod yn un "hir ac anodd".

Bu farw o leiaf 2,400 o bobl ar draws y DU wedi iddynt dderbyn cynhyrchion gwaed heintiedig o dramor.

Roedd 70 o'r rhai a fu farw yn dod o Gymru ac mae 200 yn parhau i ddioddef o afiechydon.

Cefndir y sgandal

Dangosodd adroddiad seneddol yn 2017 fod oddeutu 7,500 o gleifion ar draws y DU wedi cael eu heintio gan gynhyrchion gwaed a oedd wedi cael eu mewnforio.

Roedd nifer o'r cleifion wedi etifeddu yr anhwylder gwaed hemoffilia.

Roedd y cleifion hynny angen triniaeth gyson a oedd yn cynnwys y gweithredydd ceulo gwaed Ffactor VIII - ac y mae hwn yn cael ei wneud o waed sy'n cael ei roi gan eraill.

Fe fewnforiodd y DU waed ac roedd peth ohono, yn ddiarwybod, wedi'i heintio.

Roedd peth o'r plasma a gafodd ei ddefnyddio i wneud y Ffactor VIII wedi cael ei werthu gan roddwyr gwaed a oedd yn garcharorion yn America.

'Sicrhau cyfiawnder'

Dywedodd Julie Morgan, AC Gogledd Caerdydd: "Rwyf wedi bod yn gysylltiedig â'r ymgyrch hon ers bron i ugain mlynedd ar ôl i un o'm hetholwyr ofyn i fi pan oeddwn yn aelod seneddol.

"Mae wedi bod yn daith hir ac anodd i gyrraedd fan hyn - mae cael, o'r diwedd, ymchwiliad sy'n cael ei arwain gan farnwr yn gryn gamp.

"Rwy'n falch bod amodau'r ymchwiliad wedi cael eu cytuno fel y gallwn symud ymlaen i ganfod y gwir a sicrhau cyfiawnder i nifer o deuluoedd o Gymru sydd wedi colli anwyliaid ac sydd wedi dioddef."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Lynne Kelly, cadeirydd Hemoffilia Cymru: "Bydd yr ymchwiliad yn rhyw fath o uchafbwynt i'r teuluoedd sydd wedi dioddef am dros 30 mlynedd gan rywbeth nad oedd yn fai arnyn nhw.

"Ry'n yn croesawu bod gwaith yn cael ei wneud i ymchwilio i'r sgandal gwaed heintiedig ac ry'n yn annog pob dioddefwr i ddod ymlaen ac i'n helpu i gael y gwir."