Gwariant hediadau Môn-Caerdydd wedi cynyddu £800,000
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth gwariant Llywodraeth Cymru ar gyswllt awyr Caerdydd ac Ynys Môn bron â dyblu'r llynedd.
Yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru Fyw, cafodd bron i £2m ei ddarparu yn 2017/18 er mwyn cynnal y gwasanaeth rhwng y de a'r gogledd.
Dros y flwyddyn ddiwethaf fe wnaeth nifer y teithwyr a hedfanodd ar y llwybr gynyddu o 38%.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y cynnydd yn y cyllid wedi dod oherwydd bod cwmni newydd wedi gorfod cymryd cyfrifoldeb dros y gwasanaeth llynedd.
Ond mae'r Ceidwadwyr wedi dweud bod yr arian ychwanegol yn "hollol annerbyniol", ac y byddai'n well gwario ar ffyrdd a rheilffyrdd.
'Gwelliannau poblogaidd'
Ym mis Mawrth 2017 fe wnaeth y llywodraeth arwyddo cytundeb gydag Eastern Airways i gymryd yr awenau wedi i gwmni Citywings ddweud y byddai eu gwasanaethau nhw'n dod i ben.
Mae'r cytundeb presennol, sy'n gweld Eastern Airways yn gweithredu'r gwasanaeth ar y cyd gyda Flybe, yn un sy'n rhedeg o fis i fis.
Ym mis Mai eleni fe gyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates y bydd tendr newydd hir dymor ar gyfer y cyswllt awyr yn cael ei lansio.
Ond fis diwethaf cafodd cais gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y seddi ar yr hediadau rhwng Caerdydd a Môn ei wrthod gan Lywodraeth y DU.
Mae ffigyrau sydd wedi dod i law drwy gais Rhyddid Gwybodaeth yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi gwario £1.88m ar y gwasanaeth y llynedd, o'i gymharu â £1.08m y flwyddyn gynt.
Ond roedd cynnydd yn nifer y teithwyr wedi i Eastern Airways ddechrau rhedeg y gwasanaeth, gyda 13,845 o bobl yn ei ddefnyddio yn 2017/18.
Roedd hynny o'i gymharu â 10,039 yn 2016/17, ffigwr oedd eisoes wedi bod yn cynyddu'n raddol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Roedd cynnydd yn y gefnogaeth ariannol yn 2017/18 yn rhannol oherwydd i'r cytundeb gael ei dyfarnu ar frys yn dilyn methiant y cwmni blaenorol, ac yn rhannol oherwydd bod y cwmni awyr presennol yn darparu gwasanaeth ychwanegol gydag awyrennau mwy a gwasanaeth dosbarthu tocynnau mwy aeddfed.
"Mae'r gwelliannau hyn wedi profi'n boblogaidd gyda theithwyr ac mae Eastern Airways wedi bod yn llwyddiannus wrth dyfu'r llwybr yn sylweddol ers iddyn nhw gael y cytundeb."
'Llanast'
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r gwariant ychwanegol fodd bynnag gan ddweud y byddai'n well i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar wella ffyrdd a rheilffyrdd i'r gogledd.
"Mae'r cynnydd sylweddol yma yn y cymhorthdal sy'n cael ei ddarparu i gyswllt awyr Caerdydd ac Ynys Môn yn hollol annerbyniol," meddai llefarydd y blaid ar yr economi a thrafnidiaeth, Russell George.
"Mae miliynau o bunnau o arian y trethdalwyr nawr yn cael ei wario ar gynnal y gwasanaeth yma - byddai'n well ei wario ar gysylltiadau awyr sydd yn fwy dichonadwy yn fasnachol, neu wella isadeiledd ffyrdd a rheilffyrdd drwy ogledd Cymru a thu hwnt.
"Pennod arall yw hon mewn stori hir o Lywodraeth Cymru'n gwneud llanast o gyswllt awyr Caerdydd ac Ynys Môn, ac mae'n esiampl arall o agenda drafnidiaeth ddiffygiol Llafur Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd24 Mai 2018
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2018