Bwriad i sefydlu naw llwybr newydd o Faes Awyr Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu lansio hediadau newydd o Gaerdydd i naw lleoliad yn y DU.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates ei fod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r Comisiwn Ewropeaidd i sefydlu "nifer o lwybrau Gorfodaeth Gwasanaeth Cyhoeddus (PSO)".
Does dim rhaid talu treth teithwyr awyr ar y math yna o lwybrau, gan olygu bod cost siwrne ddwy ffordd £26 yn rhatach, ac mae gan gwmnïau hawliau dethol i'r llwybr am bedair blynedd.
Fe wnaeth y gweinidog hefyd gyhoeddi y bydd y tendr newydd ar gyfer y cyswllt awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn yn cael ei lansio ym mis Mehefin.
'Dim arian cyhoeddus'
Mae disgwyl i'r llwybrau newydd o Faes Awyr Caerdydd i lefydd fel Llundain, Manceinion ac Aberdeen ddechrau rhedeg yng ngwanwyn 2019, os oes cwmnïau'n dewis cymryd y cytundebau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r cynllun yn darparu hediadau mwy cyson i rannau allweddol o'r DU, gan gynnig cyfleoedd busnes a hybu'r economi.
Mae hediadau i Lundain a Norwich eisoes wedi cael eu cynnig yn y gorffennol, gyda'r rheiny'n dod i ben oherwydd diffyg teithwyr.
Byddai hediadau eraill fel yr un i Glasgow, sydd eisoes yn bodoli, yn cynyddu o un y dydd i ddau y dydd.
Dyw llwybrau uniongyrchol eraill sydd wedi'u cynnig, gan gynnwys i Fanceinion, Leeds Bradford, Aberdeen, Inverness, Humberside a Newquay ddim wedi gweithredu o'r blaen.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i ddiffyg treth teithwyr awyr, a'r hawliau dethol am bedair blynedd, fod yn ddigon i ddenu cwmnïau i'w rhedeg.
Oni bai am "gyllideb marchnata fechan", medden nhw, fyddai dim arian cyhoeddus felly'n mynd tuag at gynnal y llwybrau.
Dywedodd prif weithredwr Maes Awyr Caerdydd, Deb Barber: "Mae'n newyddion da gweld yr uchelgais i ddatblygu mwy o gysylltiadau awyr rhwng Cymru a gweddill y DU, sydd â'r potensial i greu cyfleoedd busnes a thwristiaeth ar draws y DU, ac mae gan y fenter ein cefnogaeth lawn."
Caerdydd a Môn
Ychwanegodd Mr Skates nad oedd yn disgwyl i'r allyriadau CO2 ar y naw llwybr arfaethedig fod yn "llawer gwahanol" i siwrneiau ceir a threnau o ystyried nifer y teithwyr.
Os yw'r llwybrau newydd yn llwyddiannus, fe fydd gweinidogion yn ystyried lleoliadau eraill yn Ewrop a meysydd awyr eraill yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd y tendr ar gyfer cyswllt awyr Caerdydd ac Ynys Môn yn cael ei lansio ym mis Mehefin, wedi i ddau gwmni roi'r gorau i redeg y gwasanaeth yn y blynyddoedd diwethaf.
Bellach mae'n cael ei redeg gan Eastern Airways mewn perthynas â Flybe, wedi i Citywing fynd i'r wal gan ddweud bod y gwasanaeth yn "anghynaladwy".
Dywedodd y llywodraeth eu bod yn chwilio am weithredwr hir dymor fydd yn gwella'r gwasanaeth, yn dilyn twf o 40% yn nifer y teithwyr dros y 12 mis diwethaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2018
- Cyhoeddwyd9 Awst 2017
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2017